About this Event
Sesiwn Gemau Lles Dynion yn Symud Ymlaen
Gorsaf VIBE, y Rhyl. 1 – 3pm
Dydd Mercher, 21 Hydref
Ar gyfer dynion 16+ oed sy’n byw yn Sir Ddinbych
Rhad ac am ddim i fynychu
☕🍰 Darperir te, coffi a chacen
Cymerwch seibiant oddi wrth fywyd dyddiol ac ymunwch â ni am Sesiwn Gemau Lles Dynion yn Symud Ymlaen hamddenol a chroesawgar yng Ngorsaf VIBE, yn y Rhyl.
Rydym yn rhoi ein ffonau i lawr ac yn mynd yn ôl i’r hen ddyddiau gyda Jenga, Connect 4, gemau cardiau, gemau bwrdd a chlasuron poblogaidd eraill. P'un a ydych chi awydd rhywfaint o gystadleuaeth gyfeillgar, sgwrs dda, neu'n syml ychydig o amser i ddadflino, dyma ofod cefnogol lle gallwch ymlacio, cwrdd ag eraill a mwynhau rhywbeth ychydig yn wahanol.
Pam gemau?
Mae gemau yn cynnig mwy na dim ond adloniant – maen nhw’n wych o ran lles a gallant helpu i:
- Leihau straen a thynnu eich sylw oddi ar bwysau dyddiol
- Rhoi hwb i’ch hwyliau drwy chwarae, chwerthin a hwyl ysgafn
- Annog pobl i greu ffrindiau, cymdeithasu a sgwrsio mewn ffordd naturiol
- Rhoi hwb i hyder drwy lwyddiannau bychain a rhyngweithio cadarnhaol
- Datblygu sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm a datrys problemau
- Creu ymdeimlad o berthyn, cymuned a mwynhad a rennir
Beth i’w ddisgwyl
✅ Awyrgylch anffurfiol, cyfeillgar
✅ Lluniaeth a chacen am ddim
✅ Gweithgareddau a gemau clasurol
✅ Cyfleoedd i gwrdd â phobl newydd
✅ Gofod cefnogol, lle mae croeso i bawb
P’un a ydych chi’n dymuno cysylltu gydag eraill, cymryd amser i chi eich hun, neu’n syml fwynhau paned a gemau, byddem wrth ein boddau yn eich gweld chi yno.
Dewch draw am baned, i fwynhau cacen a darganfod sut y gall gêm syml wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’ch lles. ☕
Dynion yn Symud Ymlaen – cefnogi lles dynion ar draws Sir Ddinbych.
----------------------------------------------
Men Moving Forward Wellbeing Games Session
The Vibe Station, Rhyl. 1 – 3pm
📅 Wednesday 21st October
👥 For men aged 16+ living in Denbighshire
💷 Completely free to attend
☕🍰 Tea, coffee and cake provided
Take a break from the everyday and join us for a relaxed, welcoming Men Moving Forward Wellbeing Games Session at The Vibe Station, Rhyl.
We're stepping away from screens and going old school with Jenga, Connect 4, card games, board games and other classic favourites. Whether you fancy a bit of friendly competition, a good chat, or simply some time to unwind, this is a supportive space where you can relax, meet others and enjoy something a little different.
🎲 Why games?
Games are more than just entertainment – they're great for wellbeing and can help:
- Reduce stress and provide a healthy distraction from daily pressures
- Boost mood through play, laughter and light-hearted fun
- Encourage friendship, connection and conversation in a natural way
- Build confidence through small achievements and positive interactions
- Develop communication, teamwork and problem-solving skills
- Create a sense of belonging, community and shared enjoyment
What to expect
✅ Friendly, informal atmosphere
✅ Free refreshments and cake
✅ Classic games and activities
✅ Opportunities to meet new people
✅ A supportive space where everyone's welcome
Whether you're looking to connect with others, take some time for yourself, or simply enjoy a brew and a game, we'd love to see you there.
Come along, grab a cuppa, enjoy some cake, and discover how a simple game can make a positive difference to your wellbeing. 🍰☕🎲
Men Moving Forward – supporting men's wellbeing across Denbighshire.
Event venue & nearby stays
40 Bodfor St, 40 Bodfor Street, Rhyl, United Kingdom