About this Event
Trosolwg
Yn dilyn ymlaen o lwyddiant ysgubol y Cynadleddau Iechyd Merched ym Mhafiliwn y Rhyl ym mis Mawrth 2025 a Phrifysgol Bangor 2026; rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi sicrhau cyllid i’n galluogi i adeiladu ar y llwyddiant hwn a chynnal Cynhadledd Iechyd Merched 2027 mewn partneriaeth â BIPBC, CGGSDd, AVOW a Phrifysgol Wrecsam.
Cynhelir y Gynhadledd Iechyd Merched ar y 3ydd o Chwefror 2027, cyn Dathliadau Wythnos Ryngwladol Merched ym mis Mawrth – fel rhan o raglen i gefnogi Iechyd Merched yng Ngogledd Cymru byddwn hefyd yn cynnal sesiynau ar-lein a digwyddiadau wyneb yn wyneb cyn ac ar ôl y Gynhadledd – bydd rhagor o fanylion a sesiynau’n cael eu hychwanegu yma ar ôl eu cadarnhau…
14 Ionawr 2027 - Iechyd Menywod - Sesiwn Brathiad o Sgrinio (cadarnhawyd)
[Nia Lederle – Iechyd Cyhoeddus Cymru]
Yn y cyfnod cyn Cynhadledd Iechyd Merched 2027 ac fel rhan o Fis Ymwybyddiaeth Canser ceg y groth, ymunwch â ni am sesiwn addysgiadol ar sgrinio serfigol a’r rhaglenni sgrinio eraill sydd ar gael i ferched yng Nghymru. Dysgwch pwy sy'n gymwys ar gyfer sgrinio a pha wybodaeth, cymorth ac adnoddau sydd ar gael i'ch helpu chi a'r rhai yr ydych yn eu cefnogi i wneud dewisiadau gwybodus am gymryd rhan. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau.
Mae Croeso cynnes yn eich disgwyl yng Nghynhadledd Iechyd Merched 2027! Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn trafodaethau a seminarau craff yn canolbwyntio ar iechyd a lles merched. Cynhelir y Gynhadledd yn Neuadd William Aston, Prifysgol Wrecsam, gan ddarparu lleoliad gwych ar gyfer dysgu a chysylltu ag unigolion o'r un anian. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i flaenoriaethu eich iechyd a'ch lles a rhwydweithio!
Unwaith eto bydd y diwrnod yn cynnwys siaradwyr Ysbrydoledig, siaradwyr sy'n ymwneud ag Iechyd ac arweinwyr ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd ein thema ar gyfer Cynhadledd 2027 yn canolbwyntio ar ‘Gyflyrau Tymor Hir ar draws cwrs bywyd’ (T8) a ‘Trais yn Erbyn Merched a Cham-drin Domestig’ (P7)
Bydd cyfle i gymryd rhan mewn seminarau thematig sy'n berthnasol i faterion Merched ac ymweld â llu o stondinau gwybodaeth a gynhelir gan sefydliadau partner sy'n cefnogi anghenion Merched ar draws Gogledd Cymru.
STONDINAU GWYBODAETH / SESIYNAU BRATHIAD - Archebu lle... Anfonwch e-bost at [email protected] / [email protected] / [email protected] i gofrestru ar gyfer Stondin Wybodaeth neu i fynychu unrhyw un o'r Sesiynau Brathiad (ar-lein ac wyneb yn wyneb) - bydd y rhain trwy wahoddiad calendr.
Tra bydd stondinau gwybodaeth yn cael eu dyrannu yn rhad ac am ddim (mae byrddau yn gyfyngedig iawn), codir tâl o £50 os byddwch yn cofrestru ar gyfer stondin gwybodaeth a pheidio diddymu 7 diwrnod ymlaen llaw / neu ddim yn dod ar y diwrnod – gan y bydd lle wedi’i sicrhau ar eich cyfer.
---
Overview
Following on from the brilliant success of the Women's Health Conferences at Rhyl Pavilion in March 2025 and Bangor University 2026; we are very pleased to announce that we have secured funding to enable us to build on this success and host a 2027 Women’s Health Conference in partnership with BCUHB, DVSC, AVOW and Wrexham University.
The Women’s Health Conference will take place on the 3rd of February 2027, ahead of International Women’s Week Celebrations in March – as part of a programme to support Women’s Health in North Wales we will also be hosting online seminars and face to face events before and after the Conference – further details and sessions will be added here once confirmed…
14 January 2027 – Women’s Health - Bite Size Session on Screening (confirmed)
[Nia Lederle – Public Health Wales]
In the lead-up to the Women's Health Conference 2027 and as part of Cervical Cancer Awareness Month, join us for an informative session on cervical screening and the other screening programmes available for women in Wales. Learn who is eligible for screening and what information, support and resources are available to help you and those you support make informed choices about taking part. There will also be an opportunity to ask questions.
A warm Welcome awaits you at the Women's Health Conference 2027! Join us for a day filled with insightful discussions and seminars focused on women's health and wellbeing. The Conference will be held at William Aston Hall, Wrexham University, providing a fabulous setting for learning and connecting with like-minded individuals. Don't miss out on this opportunity to prioritise your health & wellness and network!
The day will again consist of Inspirational speakers, Health related speakers and leaders in Health and Social Care. Our theme for 2027 Conference will focus on ‘Long Term Conditions across the life-course’ (P8) and ‘Violence Against Women and Domestic Abuse’ (P7)
There will be an opportunity to participate in themed seminars relevant to Women's issues and visit a multitude of information stands hosted by partner organisations that support the needs of Women across North Wales.
INFORMATION STANDS / BITE SIZE SESSIONS - Booking... Please email [email protected] / [email protected] / [email protected] to register for an Information Stand or to attend any of the Bite Size Sessions (online and face to face) – these will be via a calendar invite.
Whilst information stands will be allocated free of charge (tables are very limited), there will be a £50 charge if you register for an information stand and do not Cancel 7 days in advance / or not turn up on the day – as space will have been secured for you.
Event venue & nearby stays
William Aston Hall, Mold Road, Wrexham, United Kingdom