About this Event
Chwedlau’r Coetir – Diwrnod Natur i Deuluoedd
Old Goginan Mine · Dydd Mawrth 27 Hydref 2026
Prynhawn o adrodd straeon, anturiaethau awyr agored a chreadigrwydd.
Ymunwch â Cath Rigler am weithdy creu stori rhyngweithiol wedi’i ysbrydoli gan natur, gyda chrefftau a phaentio wynebau gan Rainbow Face Painting.
Byddwn yn dechrau gyda stori fer am deithio ac antur, yna’n archwilio’r ardal o’n cwmpas ac yn gadael i’n dychymyg lunio stori ein hunain.
I ble awn ni?
Beth fyddwn ni’n ei ddarganfod?
Pa anturiaethau sy’n ein disgwyl?
Gall pawb helpu i lunio’r stori! Ar ôl dychwelyd, byddwn yn creu mapiau o’n teithiau dychmygol.
Mae Cath yn berfformwraig ac yn hwylusydd gyda dros 20 mlynedd o brofiad o arwain gweithgareddau awyr agored. Mae hi wrth ei bodd yn dod â phobl at ei gilydd i ddychmygu, creu a chwarae.
Amseroedd y sesiynau
• Sesiwn 1 : 1.00pm–2.30pm
• Sesiwn 2: 2.30pm–4.00pm
Mae 12 lle ar gael yn y gweithdy creu stori i bob ysgol, ar gyfer plant 7 oed a hŷn.
Mae croeso i frodyr a chwiorydd iau fwynhau’r crefftau a’r paentio wynebau. Bydd te a bisgedi ar gael i rieni.
Rhaid i riant neu ofalwr fod gyda phob plentyn ac aros drwy gydol y sesiwn.
Gwisgwch ddillad addas ar gyfer y tywydd ac esgidiau addas ar gyfer archwilio yn yr awyr agored.
Dim ond plant sy’n cymryd rhan yn y gweithdy creu stori sydd angen tocyn. Nid oes angen tocynnau ar rieni, gofalwyr na brodyr a chwiorydd iau.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, felly archebwch le dim ond os ydych yn gallu dod. Os bydd eich cynlluniau’n newid, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu cynnig y lle i deulu arall.
Woodland Tales – Family Nature Day
Old Goginan Mine · Tuesday 27 October 2026
An afternoon of storytelling, outdoor adventure and creativity.
Join Cath Rigler for an interactive storymaking workshop inspired by nature, with crafts and face painting from Rainbow Face Painting.
We’ll begin with a short tale of travel and adventure, then explore our surroundings and let our imaginations shape a story of our own.
Where will we go?
What will we discover?
What adventures await us?
Everyone can help shape the tale! On our return, we’ll create maps of our imaginary journeys.
Cath is a performer and facilitator with over 20 years’ experience of leading outdoor activities. She loves bringing people together to imagine, create and play.
Session times
• Session 1: 1.00pm–2.30pm
• Session 2 : 2.30pm–4.00pm
12 storymaking places per school, for children aged 7 and over.
Younger siblings are welcome to enjoy crafts and face painting. Tea and biscuits will be available for parents.
Children must be accompanied by a parent or carer who stays for the whole session.
Please dress for the weather and wear suitable footwear for exploring outdoors.
Follow the Eventbrite link to book your child’s storymaking place, choosing the session time which suits you best. Tickets are only required for children taking part in the storymaking workshop. Parents, carers and younger siblings do not need tickets.
Places are limited, so please only book if you can attend. If your plans change, let us know as soon as possible so we can offer the place to another family.
Event venue & nearby stays
Old Goginan Mine, Old Goginan, Aberystwyth, United Kingdom