About this Event
Scroll down for English
Uwchgynhadledd Ieuenctid Bangor Youth Summit i Flynyddoedd 8,9 a 10
Pa hawliau sydd gan bobl ifanc? Sut mae'r gyfraith yn effeithio ar fywyd bob dydd yng Nghymru? A pham mae'n bwysig bod pobl ifanc yn deall y materion sydd bwysicaf iddyn nhw?
Ymunwch â Chanolfan Gyfreithiol Plant Cymru ac Ysgol Addysg Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor ar gyfer Uwchgynhadledd Ieuenctid ryngweithiol sy'n archwilio'r cysylltiadau rhwng y gyfraith, hawliau a phrofiadau bywyd go iawn.
Bydd y digwyddiad cyffrous hwn yn dod â phobl ifanc o bob cwr o Ogledd Cymru ynghyd am ddiwrnod o drafodaeth, dadl a gweithdai ymarferol a gynlluniwyd i wneud addysg gyfreithiol yn ddiddorol, yn berthnasol ac yn hygyrch.
Mae'r uwchgynhadledd yn rhan o waith Canolfan Gyfreithiol Plant Cymru i ddatblygu a hyrwyddo addysg gyfreithiol gyhoeddus i blant a phobl ifanc, gan eu helpu i ddeall sut mae'r gyfraith yn effeithio ar eu bywydau a ble gallant fynd am gefnogaeth a gwybodaeth.
Archwilio Pynciau Sy'n Bwysig i Bobl Ifanc
Bydd themâu'r gweithdai yn cynnwys:
🌍 Amgylchedd a Llygredd
🏳️ Hunaniaeth a Pherthyn
🎓 Sesiynau dan arweiniad myfyrwyr o Brifysgol Bangor
💬 Trafodaethau a gweithgareddau rhyngweithiol
Bydd cyfle gan gyfranogwyr i ddewis o ystod o weithdai, clywed gan arbenigwyr a myfyrwyr prifysgol, a rhannu eu barn a'u profiadau eu hunain.
I Bwy Mae'r dydd?
Mae'r digwyddiad hwn wedi'i anelu at bobl ifanc sy'n oedran ysgol uwchradd, athrawon, gweithwyr ieuenctid a'r rhai sydd â diddordeb mewn cefnogi pobl ifanc i ddeall eu hawliau.
Uchafbwyntiau'r Rhaglen
• Cyflwyniad i addysg gyfreithiol yng Nghymru
• Dewis o weithdai rhyngweithiol
• Cinio a chyfleoedd i rwydweithio
• Trafodaeth grŵp ar bwysigrwydd addysg gyfreithiol
• Sesiwn myfyrio ac adborth
• Gweithgareddau dan arweiniad myfyrwyr Addysg o Brifysgol Bangor
Yn anad dim, nod y gynhadledd hon yw rhoi llais i bobl ifanc, eu helpu i ddeall y byd o'u cwmpas, a sicrhau bod ganddynt y wybodaeth a'r hyder i arfer eu hawliau.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, felly anogir archebu lle yn gynnar.
Cynhelir gan Ganolfan Gyfreithiol Plant Cymru (Children's Legal Centre Wales) mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor.
Youth Summit: Legal Rights and Real Life - For Years 8,9 &10
What rights do young people have? How does the law affect everyday life in Wales? And why is it important that young people understand the issues that matter most to them?
Join Children's Legal Centre Wales and the School of Education, Bangor University for an interactive Youth Summit exploring the connections between law, rights, and real-life experiences.
This exciting event will bring together young people from across North Wales for a day of discussion, debate, and hands-on workshops designed to make legal education engaging, relevant, and accessible.
The summit forms part of Children's Legal Centre Wales' work to develop and promote public legal education for children and young people, helping them understand how the law affects their lives and where they can go for support and information.
Explore Topics That Matter to Young People
Workshop themes will include:
🌍 Environment and Pollution
🏳️ Identity and Belonging
🎓 Student-led sessions from Bangor University
💬 Interactive discussions and activities
Participants will have the opportunity to choose from a range of workshops, hear from experts and university students, and share their own views and experiences.
Who Is It For?
This event is aimed at secondary school-aged young people, teachers, youth workers and those interested in supporting young people's understanding of their rights.
Programme Highlights
• Introduction to legal education in Wales
• Choice of interactive workshops
• Lunch and networking
• Group discussion on the importance of legal education
• Reflection and feedback session
• Activities led by Bangor University Education students
Above all, this summit is about giving young people a voice, helping them understand the world around them, and ensuring they have the knowledge and confidence to exercise their rights.
Spaces are limited, so early booking is encouraged.
Hosted by Children's Legal Centre Wales in partnership with Bangor University.
Event venue & nearby stays
Canolfan Gelfyddydau Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor, United Kingdom