About this Event
Uwchgynhadledd Digartrefedd Sir Gaerfyrddin.
Atal Argyfwng gyda'n Gilydd: Cryfhau Partneriaeth, Lleihau'r Galw, Gwella Bywydau.
Carmarthenshire Homelessness Summit.
Preventing Crisis Together: Strengthening Partnership, Reducing Demand, Improving Lives.
Anaml y mae digartrefedd yn cael ei achosi gan un digwyddiad.
Mae'n aml o ganlyniad i bwysau sydd wedi cynyddu dros amser, gan gynnwys tlodi, iechyd gwael, trawma, teuluoedd yn chwalu, cam-drin domestig, defnyddio sylweddau, ansicrwydd ynghylch tŷ, caledi ariannol ac anghenion cymorth heb eu diwallu. Erbyn i ddigartrefedd ddigwydd, mae llawer o unigolion a theuluoedd eisoes wedi bod mewn cysylltiad â sawl sefydliad.
Homelessness is rarely caused by a single event.
It is often the result of pressures that have built over time, including poverty, poor health, trauma, family breakdown, domestic abuse, substance use, housing insecurity, financial hardship and unmet support needs. By the time homelessness occurs, many individuals and families have already had contact with multiple organisations.
Sut ydym yn ymyrryd yn gynharach, yn gweithio'n well gyda'n gilydd ac yn atal argyfwng cyn iddo ddigwydd?
Bydd yr uwchgynhadledd ryngweithiol hon yn defnyddio digartrefedd fel astudiaeth achos ymarferol i archwilio themâu ehangach o ran atal, rheoli'r galw, gweithio mewn partneriaeth a chynaliadwyedd y gwasanaethau cyhoeddus. Bydd y cyfranogwyr yn archwilio sut mae pobl yn mynd yn agored i niwed, sut mae'r galw'n cynyddu ar draws systemau a lle gallai ymyrraeth gynharach wella canlyniadau i breswylwyr wrth leihau'r pwysau ar wasanaethau.
How do we intervene earlier, work better together and prevent crisis before it happens?
This interactive summit will use homelessness as a practical case study to explore wider themes of prevention, demand management, partnership working and public service sustainability. Participants will examine how vulnerability develops, how demand escalates across systems and where earlier intervention could improve outcomes for residents while reducing pressure on services.
Beth i'w ddisgwyl?
Bydd y sesiwn yn cynnwys:
- Cyflwyniadau strategol
- Ymarferion astudiaethau achos rhyngweithiol
- Cyfleoedd ar gyfer trafodaethau partneriaeth
- Mapio'r system a sgyrsiau sy'n canolbwyntio ar atal
- Cyfleoedd i rwydweithio â phartneriaid o bob rhan o'r sir
- Cyfleoedd i gyfrannu syniadau a chamau gweithredu ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol
What to expect?
The session will include:
- Strategic presentations
- Interactive case-study exercises
- Facilitated partnership discussions
- System mapping and prevention-focused conversations
- Networking opportunities with partners from across the county
- Opportunities to contribute ideas and actions for future collaboration
Event venue & nearby stays
SA31 3EP, Cothi Suite, Halliwell Conference Centre,, Carmarthen, United Kingdom