A window into living with Dementia
About this Event
Scroll down for English
Mae Rhtuhun sy’n deall Dementia yn falch o ddod â’r Daith Dementia Rhithiol yn ôl i Rhuthun, drwy gymorth cyllid gan gwmni Shorecliffe Training Limited.
A ydych chi’n ofalwr di-dâl, yn aelod o deulu neu’n ffrind i rhywun sy’n byw gyda dementia neu’n unigolyn a hoffai ddysgu rhagor am y cyflwr?
A ydych chi’n cynnal neu’n ymwneud â grŵp cymdeithasol neu gymunedol yn Rhuthun neu’r cyffiniau?
Os ydych chi wedi ateb ‘Ydw’ i unrhyw un o’r cwestiynau hyn, mae’r digwyddiad hwn ar eich cyfer chi.
Pan fydd unigolyn yn cael diagnosis o Ddementia, mae’r rhai o’u cwmpas yn cael y diagnosis hefyd. Maen nhw’n mynd trwy’r poeni, yr ypsetio a’r ofn hefyd. Os medrwn ni helpu’r rhai sy’n gofalu am rywun sy’n byw gyda dementia i gael gwell syniad o sut mae hynny’n teimlo, yna bydd ganddyn nhw well dealltwriaeth a byddant yn fwy amyneddgar, yn fwy gofalgar, yn fwy ystyriol ac yn teimlo eu bod yn medru gofalu am eu hanwylyn yn well.
Mae’r Daith Dementia Rhithiol yn hollol wahanol i unrhyw gwrs hyfforddiant. Mae’n rhoi mewnwelediad go iawn i fyd pobl sy’n byw gyda dementia. Fe’i dyluniwyd yn benodol i wella dealltwriaeth pobl.
Mae’r Daith yn rhoi profiad dysgu adfyfyriol ac emosiynol i unigolion, gan gynyddu eu dealltwriaeth. Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn.
Y Daith Dementia Rhithiol ydy’r unig ddull wedi’i brofi’n wyddonol a meddygol o roi’r profiad o sut beth ydy dementia i unigolion ag ymennydd iach.
Cynhelir dwy sesiwn bob diwrnod yn y cerbyd. Gall 16 o unigolion fod ymhob sesiwn, sy’n para am dair awr. Bydd sesiynau’n cael eu cynnal yn lleoliad Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn Rhuthun rhwng 10am - 1pm a 1.30pm - 4.30pm.
Cyllidwyd y digwyddiad hwn er budd trigolion Rhuthun a’r pentrefi cyfagos yn bennaf, felly rhoir blaenoriaeth i aelodau’r gymuned leol wrth wneud cais am le.
Rydym ni’n sylweddoli y gallai eraill fod â diddordeb yn y digwyddiad hwn, ac os na fydd pob lle wedi’i ddyrannu i bobl leol, bydd unrhyw leoedd sy’n weddill yn cael eu cynnig i unigolion ar restr aros.
Os ydych chi’n byw y tu hwnt i ardal Rhuthun, ond yr hoffech ddod i un o’r sesiynau, nodwch y dyddiad ac anfonwch neges e-bost i [email protected] os gwelwch yn dda, i roi eich enw ar y rhestr aros, gan nodi pa sesiwn yr hoffech ddod iddi. Os bydd lle ar gael, byddwn yn cysylltu â chi i’ch hysbysu erbyn dydd Gwener, 11 Medi.
---------------------------
Dementia Friendly Ruthin with funding from Shorecliffe Training limited are pleased to bring the Virtual Dementia Tour back to Ruthin.
Are you an unpaid Carer, family member or a friend of someone living with Dementia or someone who would like to know more about the condition?
Do you run or are involved in running a social or community group in Ruthin or close by?
If you have answered yes to any of these questions, this is the event for you.
When a person gets a diagnosis of Dementia, those around them get the diagnosis too. They go through all the worry, upset and fear as well. If we can help those who are caring for someone, to get a better concept of how it feels, then they can have a better understanding, be more patient, more caring, more considerate and feel more able to care for their loved one.
The Virtual Dementia Tour (VDT) is unlike any training course and actually gives someone a window into the world of people living with dementia. It is specifically designed to improve people’s understanding.
The VDT gives individuals, an emotional reflective learning experience and increases their understanding. This really is an exciting unique opportunity.
The Virtual Dementia Tour (VDT) is the only scientifically and medically proven method of giving a person with a healthy brain the experience of what dementia might be like.
The bus delivers 2 sessions per day. Each session can have 16 delegates and is for 3 hours Sessions will be taking place at DVSC in Ruthin between 10am-1pm and 1.30-pm to 4.30pm.
This event has been funded primarily to benefit residents of Ruthin and the surrounding villages, therefore booking priority will be given to local community members.
We recognise that there may be interest from neighbouring areas and, where places are not fully taken by local residents, any remaining spaces will be offered to people on a waiting list.
If you live outside the Ruthin area and would like to be considered for a place, please email [email protected] to join the waiting list. Successful applicants will be notified by Friday 11 September.
Event venue & nearby stays
Canolfan Naylor Leyland Centre, 55 Well Street, Ruthin, United Kingdom