About this Event
Noson yng Nghwmi STACEY BLYTHE / An Evening with STACEY BLYTHE
[scroll down for English]
Mae Caffi Caban yn cyflwyno noson efo chwedlwraig, cantores a thelynores Stacey Blythe, gyda chefnogaeth o Glwb Gwerin Brynrefail.
Bydd Stacey yn rhannu fersiwn newydd angerddol a phwerus o'r stori mytholeg o Groeg. “Eurydice ac Orfeo” yw stori hudolus am gariad a cholled. Clywn gerddoriaeth byw ar y delyn a chanu hefyd.
Mae Stacey Blythe wedi treulio deng mlynedd ar hugain yn byw ac yn anadlu canu gwerin Cymraeg. Mae hi'n hyfforddi cantorion yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.
Mae hi wedi perfformio yn America, Brasil ac Awstralia efo ei bandiau Ffynnon ac Elfen, ac wedi ymchwilio i faledi traddodiadol efo Frankie Armstrong. Mae hi hefyd wedi plethu caneuon Cymraeg efo cerddoriaeth glasurol India yn ei deuawd Gitân.
Ar gyfer y noson yma bydd Stacey yn perfformio ar ei ben ei hun, gyda cyfraniadau gan aelodau o Glwb Gwerin Brynrefail.
Y manylion
Drysau: 19:00 · Cychwyn: 19:30 · Gorffen: 21:30
Bydd rhai seddi ar gael yn ogystal â lle i sefyll. Os ydach chi am fod yn siŵr o gael sedd, dowch â chadair gwersyllu efo chi.
Bydd y bar ar agor drwy'r nos am ddiodydd, ond fydd 'na ddim bwyd, felly bwytwch cyn dod.
Mae Caban yn gwbl hygyrch, gyda mynediad gwastad a thoiled anabl.
Tocynnau
Ymlaen llaw: £10 pris llawn · £6 consesiwn
Ar y dydd £12 pris llawn · £8 consesiwn
Consesiwn: pobl ddi-waith, myfyrwyr, pobl anabl a'u cydymaith, pobl wedi ymddeol ar incwm isel, a phlant dan 16.
Dim ond 50 o docynnau sydd ar gael. Os byddan nhw i gyd wedi mynd ymlaen llaw, fydd 'na ddim tocynnau ar y drws, felly archebwch yn gynnar.
Yn gynharach yr un diwrnod, rhwng 17:30 a 18:30, mae Clwb Gwerin Brynrefail yn cyflwyno gweithdy gyda Stacey am Ganu Gwerin. Mae'r gweithdy am ddim, ond mae angen archebu ar wahân ar: https://www.gwerinbrynref.cymru/
Ac os ydach chi'n awyddus i chwarae a chanu caneuon ac alawon gwerin lleol, mae Clwb Gwerin Brynrefail yn cyfarfod yng Nghaban ar Nos Mercher olaf pob mis o 6yh. Ymholiadau: [email protected]
—
An Evening with STACEY BLYTHE
Caffi Caban presents an evening with storyteller, singer and harpist Stacey Blythe, supported by Clwb Gwerin Brynrefail.
Expect folk songs and stories plus a passionate and powerful new telling of “Eurydice and Orpheus”, a magical Greek Myth about love and loss. Live harp music and songs are woven through the story.
Stacey Blythe has spent thirty years living and breathing Welsh folk song. She teaches singers at the Royal Welsh College of Music and Drama in Cardiff.
She has performed in America, Brazil and Australia with Ffynnon and Elfen, has researched traditional ballads with Frankie Armstrong, and woven Welsh song together with Indian classical music in her duo Gitân.
For this evening Stacey performs solo. There will also be guest appearances from members of Clwb Gwerin Brynrefail.
The details
Doors: 19:00 · Starts: 19:30 · Ends: 21:30
There will be some seating and some standing room. If you want to be sure of a seat, bring a chair with you.
The bar is open all evening for drinks, but there is no food, so eat before you come.
Caban is fully accessible, with step-free access and an accessible toilet.
Tickets
Advance: £10 full price · £6 concession
On the day: £12 full price · £8 concession
Concessions: unwaged people, students, disabled people and their companions, retired people on a low income, and under-16s.
There are only 50 tickets. If they all go in advance there will be none on the door, so book early.
Earlier the same day, from 17:30 to 18:30, Clwb Gwerin Brynrefail presents a workshop with Stacey on her top tips for singing Welsh folk song.
The workshop is free but you need to book separately via https://www.gwerinbrynref.cymru/
And if you'd like to play and sing some local folk songs and tunes, Clwb Gwerin Brynrefail meets at Caban on the last Wednesday of every month from 6pm.
Enquiries: [email protected]
Event venue & nearby stays
Caffi Caban, Yr hen ysgol, Bangor, United Kingdom