#StayHappening
Wed Nov 04 2026 at 04:30 pm to 07:30 pm UTC+00:00

Coleg y Cymoedd Achlysur Agored - 04 Tachwedd 2026

  • Coleg y Cymoedd · Caerphilly
  • From GBP 0.00
Coleg y Cymoedd Publisher / Host Coleg y Cymoedd
Share
Coleg y Cymoedd Achlysur Agored - 04 Tachwedd 2026
Advertisement
Achlysur Agored Coleg y Cymoedd
About this Event

Os ydych awydd cychwyn ar eich gyrfa, mynd i brifysgol, newid cyfeiriad, diweddaru’ch sgiliau neu gymryd y camau cyntaf i swydd, gall Coleg y Cymoedd eich helpu i wireddu’ch uchelgais a chyrraedd eich nod.

Cychwynnwch ar eich taith drwy fynychu un o'n Hachlysuron Agored. Cewch wybodaeth am ein holl gyrsiau, edrych ar ein cyfleusterau, cwrdd â thiwtoriaid a derbyn cyngor arbenigol ar gyrsiau, gyrfaoedd a chymorth ariannol.

Sylwer, dim ond darpar fyfyrwyr gaiff wahoddiad i gofrestru eu presenoldeb. Mae croeso i rieni, ffrindiau neu deulu ddod hefyd (does dim angen iddyn nhw gofrestru).

Mae gennym ystod eang o gyrsiau ar gyfer y rhai sy’n gadael ysgol a choleg, yn cychwyn fis Medi 2026. Lluniwyd ein Hachlysuron Agored i’ch helpu i ddysgu rhagor am y cyrsiau sydd ar gael, cynnwys y cyrsiau a’r modd y byddan nhw’n eich paratoi ar gyfer byd gwaith.

Bydd yr achlysur yn cynnig cyfle i chi siarad â’r tiwtoriaid, gofyn cwestiynau a chael blas o’r fath o bethau y byddech chi’n eu gwneud yn y Coleg.

Neu, os hoffech chi siarad â rhywun am eich opsiynau cyn yr achlysur, ffoniwch ein tîm Cyngor a Chanllawiau, tîm cyfeillgar iawn ar y rhifau isod:

Aberdâr - 01685 887500

Nantgarw - 01443 662800

Rhondda - 01443 663202

Ystrad Mynach - 01443 816888

Neu anfon e-bost at [email protected]


Sesiynau Tawel

Fel arfer, mae ein Hachlysuron Agored yn brysur iawn. Os hoffech fynychu ar adeg pan yw pethau’n ‘dawelach’, cynghorir chi i fynychu yn ystod yr awr olaf rhwng 6.30 a 7.30pm.

Advertisement

Event venue & nearby stays

Coleg y Cymoedd, Our campuses at, Caerphilly, United Kingdom

Tickets GBP 0.00
Concerts, fests, parties, meetups — all the happenings, one place.

Discover more events by tag

Ask AI if this event suits you

Keep the plans coming

More events in Caerphilly

BD & QUEST

Sun, 08 Nov at 10:00 am Sunnybank Farm Rudry Rd Rudry, CF83 3DT Caerphilly, United Kingdom

Caerphilly is happening.

See everything else that’s on — concerts, markets, comedy and more.