#StayHappening
Thu, 05 Nov, 2026 at 05:00 pm UTC+00:00

Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe

  • Swansea Singleton Park · Swansea
Joio Bae Abertawe Publisher / Host Joio Bae Abertawe
Share
Arddangosfa T\u00e2n Gwyllt Cyngor Abertawe
Advertisement
Dewch i fwynhau noson o gyffro pyrotechnegol wrth i Arddangosfa Tân Gwyllt Arbennig Abertawe ddychwelyd nos Iau 5 Tachwedd mewn lleoliad newydd, sef Parc Singleton!
Gallwch ddisgwyl mwy na thân gwyllt yn unig eleni - bydd effeithiau laser gwych yn ychwanegu cyffro ychwanegol at yr arddangosfa!
Bydd y digwyddiad, sydd wedi'i ysbrydoli gan fythau a hud, yn cludo ymwelwyr i fyd o ffantasi a rhyfeddod Dewch i gadw llygad am dylwyth teg a dewiniaid, cwrdd â chymeriadau hudol ar grwydr a mwynhau adloniant llwyfan cyffrous trwy gydol y noson.
Peidiwch â cholli'r perfformwyr tân arbennig! Byddant yn cwrdd â chi wrth i chi gyrraedd a byddant hefyd yn cyflwyno perfformiad hudol cyn y brif arddangosfa tân gwyllt.
Amseroedd y digwyddiad
Gatiau ar agor: 5pm
Adloniant cyn y sioe: 5.30pm
Prif arddangosfa tân gwyllt: 7.30pm
Bydd y cyfleusterau parcio agosaf ar gyfer y digwyddiad yng Nghae Lacrosse Singleton ac yn y Rec. Codir £5 y cerbyd ar gyfer parcio, a gallwch dalu ar y diwrnod.
Bydd amrywiaeth o werthwyr bwyd a diod ar y safle, gan gynnig danteithion blasus a lluniaeth i ymwelwyr eu mwynhau.
Cefnogir gan Gynnig Gofal Plant Cymru
Advertisement

Event venue

Swansea Singleton Park, Teamwork Technology Services, Swansea, SA2 9, United Kingdom

Tickets
Concerts, fests, parties, meetups — all the happenings, one place.

Ask AI if this event suits you

Keep the plans coming

More events in Swansea

Swansea is happening.

See everything else that’s on — concerts, markets, comedy and more.