Wales Trauma Conference (TISUK&TRUK) 2023

Mon Apr 24 2023 at 10:00 am to 04:30 pm

City Hall | Cardiff

Trauma Informed Schools UK
Publisher/HostTrauma Informed Schools UK
Wales Trauma Conference (TISUK&TRUK) 2023
Advertisement
Brain Based Attachment Interventions to Transform Troubled Lives
(Practitioners, Schools, Communities and Public Services)
About this Event
Wales Trauma Conference (TISUK and TRUK)Brain Based Attachment Interventions to Transform Troubled LivesMon 24th April 2023, City Hall, Cardiff

For practitioners, schools, communities and public services; or anyone working with children, teenagers and adults who have experienced trauma.

A cutting-edge conference with international speakers Dr Dan Hughes and Dr Jonathan Baylin presenting a day on brain based attachment interventions to transform lives.

Key note speakers

Dr Jonathan Baylin

Dr Jonathan Baylin, PhD, received his doctorate in Clinical Psychology from Vanderbilt University (US) in 1981. He has been working in the mental health field for 35 years. For the past fifteen years, while continuing his clinical practice, he has immersed himself in the study of neurobiology and in teaching mental health practitioners about the brain. He has given numerous keynotes and workshops for mental health professionals on ‘Putting the Brain in Therapy’ both internationally and regionally within the US. Several years ago, Dr. Baylin began a collaborative relationship with Dan Hughes, a leader in the field of attachment-focused.

Dr Dan Hughes

Dr Dan Hughes is a clinical psychologist who resides in USA. After receiving his Ph.D. in Clinical Psychology from Ohio University he fairly quickly began specializing in the treatment of children and youth who had experienced abuse and neglect and for the most part now manifested serious psychological problems secondary to childhood trauma and attachment disorganization. Not having much success helping these children with traditional treatments, he developed an attachment-focused treatment that relied heavily on the theories and research of attachment and intersubjectivity to guide his model of treatment and parenting. He is the author of many books including Building the Bonds of Attachment, Attachment-Focused Family Therapy Workbook and Facilitating Developmental Attachment: The Road to Emotional Recovery. Dan has recently co-written the book Settling Troubled Pupils to Learn – why relationships matter in school together with Louise Bomber. He has provided training and consultations to therapists, social workers and parents throughout the US, Canada, UK, and Australia and provides regular training’s at Colby College in Maine, Annville, PA, and London, UK. He also is a visiting tutor for a graduate program in London.

Agenda

9.30am Arrival

10.00am. Introduction

10.05am Dr Jonathan Baylin

The Neurobiology of Trust and Blocked Trust

The Neurobiology of Care and Blocked Care

11.15am. Break

11.30am Dr Dan Hughes

Psychological Features of Attachment and Developmental Trauma

Reciprocity and Intersubjectivity

12.30pm Question and Answer

12.50pm. Lunch

1.40pm Dr Jonathan Baylin

The Neurobiology of Affect Dysregulation to Regulation

Reawakening the Social Pain System within the Context of Safety

Reviving the Self-System: Strengthening the Default Mode Network

The Neurobiology of Compassion and Empathy

2.25pm Break

2.40pm. Dr Dan Hughes

DDP: The Path Toward Relational Safety and DevelopmentPrinciples for Trusting and Caring again

3.40pm. Question and Answer

4.00pm Finish

Cost: £95 or £75 for practitioners

This event will be held at City Hall, Cardiff

For travel information see https://www.cardiffcityhall.com/parking/

All proceeds will be donated to the TISUK Student Bursary Scheme for TISUK Community Training


Cynhadledd Trawma Cymru

(TISUK a TRUK)

O Wybodus am Drawma i Adferiad o Drawma:

Ymyriadau Ymlyniad sy’n Seiliedig ar yr Ymennydd ar gyfer Trawsnewid Bywydau Cythryblus

Ar gyfer Ymarferwyr TISUK, ysgolion, cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus; neu unrhyw un sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion sydd wedi profi trawma.

Dydd Llun 24 Ebrill 2023

Neuadd y Ddinas Caerdydd

10.00am hyd 4.00pm

Ffi: £95, £75 i ymarferwyr

Rhoddir yr holl elw i gynllun bwrsariaeth myfyrwyr ar gyfer hyfforddiant cymunedol TISUK.Gwybodaeth am y digwyddiadY siaradwyr rhyngwladol Dr Dan Hughes a Dr Jon Baylin yn cyflwyno diwrnod ar ymyriadau ymlyniad sy’n seiliedig ar yr ymennydd ar gyfer trawsnewid bywydau

Cynhadledd flaengar gyda’r siaradwyr rhyngwladol Dr Dan Hughes a Dr Jonathan Baylin yn cyflwyno diwrnod ar ymyriadau ymlyniad sy'n seiliedig ar yr ymennydd ar gyfer trawsnewid bywydau.

Agenda

9.30am Cyrraedd

10.00am. Cyflwyniad

10.05am Dr Jonathan BaylinNiwrofioleg Ymddiriedaeth ac Ymddiriedaeth Wedi'i Rwystro

Niwrofioleg Gofal a Gofal Wedi'i Rwystro

11.15am. Egwyl

11.30am Dr Dan Hughes

Nodweddion Seicolegol Ymlyniad a Dwyochredd a Rhyngoddrycholdeb Trawma Datblygiadol

12.30pm Cwestiwn ac Ateb

12.50pm. Cinio

1.40pm Dr Jonathan Baylin

Niwrofioleg symud o Gamreoleiddio'r Affaith i Reoleiddio

Ail-ddeffro'r System Poen Cymdeithasol o fewn Cyd-destun Diogelwch

Adfywio System yr Hunan: Cryfhau'r Rhwydwaith Modd Diofyn

Niwrofioleg Tosturi ac Empathi

2.25pm Egwyl

2.40pm. Dr Dan Hughes

DDP: Y Llwybr tuag at Ddiogelwch Perthynol ac Egwyddorion Datblygu ar gyfer Ymddiried a Gofalu eto

3.40pm. Cwestiwn ac Ateb

4.00pm Gorffen

Prif siaradwyr

Dr Jonathan Baylin

Derbyniodd Dr Jonathan Baylin, PhD, ei ddoethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol o Brifysgol Vanderbilt (UDA) yn 1981. Mae wedi bod yn gweithio yn y maes iechyd meddwl ers 35 mlynedd. Am y pymtheng mlynedd diwethaf, gan barhau â'i ymarfer clinigol, mae wedi ymgolli yn yr astudiaeth o niwrofioleg ac mewn addysgu ymarferwyr iechyd meddwl am yr ymennydd. Mae wedi bod yn brif areithiwr a chynnal gweithdai ar gyfer gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol ar ‘Rhoi’r Ymennydd mewn Therapi’ yn rhyngwladol ac yn rhanbarthol yn yr Unol Daleithiau. Sawl blwyddyn yn ôl, dechreuodd Dr. Baylin berthynas gydweithredol â Dan Hughes, arweinydd ym maes canolbwyntio ar ymlyniad.

Dr Dan Hughes

Mae Dr Dan Hughes yn seicolegydd clinigol sy'n byw yn UDA. Ar ôl derbyn ei Ph.D. mewn Seicoleg Glinigol o Brifysgol Ohio dechreuodd arbenigo'n weddol gyflym mewn trin plant a phobl ifanc a oedd wedi cael eu cam-drin a'u hesgeuluso ac a oedd, ar y cyfan, bellach yn amlygu problemau seicolegol difrifol yn eilradd i drawma plentyndod ac anhrefn ymlyniad. Gan nad oedd yn cael llawer o lwyddiant yn helpu’r plant hyn gyda thriniaethau traddodiadol, datblygodd driniaeth a oedd yn canolbwyntio ar ymlyniad a oedd yn dibynnu’n helaeth ar ddamcaniaethau ac ymchwilio ym meysydd ymlyniad a rhyngoddrycholdeb i arwain ei fodel o driniaeth a rhianta. Mae'n awdur llawer o lyfrau yn cynnwys Building the Bonds of Attachment, Attachment-Focused Family Therapy Workbook a Facilitating Developmental Attachment: The Road to Emotional Recovery. Yn ddiweddar, mae Dan wedi cyd-ysgrifennu’r llyfr Settling Troubled Pupils to Learn – why relationships matter in school gyda Louise Bomber. Mae wedi darparu hyfforddiant ac ymgynghoriadau i therapyddion, gweithwyr cymdeithasol a rhieni ledled yr Unol Daleithiau, Canada, y DU ac Awstralia ac mae'n darparu hyfforddiant rheolaidd yng Ngholeg Colby ym Maine, Annville, PA, a Llundain yn y DU. Mae hefyd yn diwtor gwadd ar gyfer rhaglen i raddedigion yn Llundain

Archebu:

Gwybodaeth ar gyfer cysylltu:

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Am wybodaeth teithio gweler: www.cardiffcityhall.com/about/


Advertisement

Event Venue & Nearby Stays

City Hall, King Edward VII Avenue, Cardiff, United Kingdom

Tickets

GBP 95.00

Sharing is Caring: