About this Event
A Practical Introduction to Artificial Intelligence for SMEs
Delivered by Dr Denitsa Dineva
Join us for a free half-day, in-person workshop designed to demystify artificial intelligence (AI) and show how it can be used responsibly and effectively in small and medium-sized businesses.
This interactive session offers a clear, non-technical introduction to AI, with real-world examples, hands-on demonstrations, and guided exploration of beginner-friendly tools. You’ll gain the confidence to make informed decisions about experimenting with and adopting AI in your organisation.
About the Session
This free introductory workshop is designed for SMEs who want a realistic understanding of what AI is, and what it isn’t.
Through demonstrations, guided activities, and discussion, participants will explore how AI can support business and digital strategy, while learning about ethical, safe, and responsible use.
The aim is to build practical confidence so you can decide where AI could add value to your organisation — and where it may not be appropriate.
Who Should Attend?
This session is ideal for: Small business owners, managers and team leaders, SME staff involved in digital, operations, or innovation, anyone with little or no prior experience of AI
It is particularly relevant to SMEs in Wales and across the UK who want a clear, practical introduction to AI.
No technical background is required.
What You’ll Learn
- What AI Is — and What It Isn’t
- Common Uses of AI in Business
- AI in Digital Strategy
- Interactive Demonstrations & Exploration
- Ethical, Safe and Responsible Use
- Wrap-Up and Next Steps
By the End of the Workshop, You Will Be Able To:
- Understand the core principles of AI
- Distinguish AI from non-AI technologies
- Identify where AI could add business value
- Recognise limitations and risks
- Explore AI tools safely and responsibly
- Understand ethical and governance considerations
- Feel confident experimenting with AI
Benefits of Attending
By taking part, you will:
- Gain a balanced and realistic understanding of AI
- Develop hands-on experience with accessible tools
- Learn how AI fits into wider digital strategy
- Build confidence in evaluating new technologies
- Make better-informed decisions about adoption
- Connect with other SME leaders exploring digital innovation
This course supports thoughtful, responsible, and practical use of AI — focused on real business value rather than hype.
Register Now
Places are limited. Early registration is recommended to secure your place at this free in-person session.
***
Cyflwyniad ymarferol i ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer busnesau bach a chanolig
Cyflwynir gan Dr Denitsa Dineva
Dewch i ymuno â ni am weithdy rhad ac am ddim hanner diwrnod, wyneb yn wyneb, gyda’r bwriad o helpu i esbonio beth yw deallusrwydd artiffisial (DA) a sut i’w ddefnyddio yn gyfrifol ac yn effeithiol mewn busnesau bach a chanolig.
Mae’r sesiwn ryngweithiol hon yn cynnig cyflwyniad clir i DA, heb fod yn dechnegol, sy’n cynnwys enghreifftiau o’r byd go iawn, arddangosiadau ymarferol a chyfle i archwilio offer sy’n briodol i ddechreuwyr, a hynny o dan gyfarwyddyd. Byddwch yn magu hyder i wneud penderfyniadau gwybodus am roi cynnig ar ddefnyddio DA yn eich sefydliad.
Gwybodaeth am y sesiwn
Mae’r gweithdy cyflwyno hwn yn rhad ac am ddim, ac yn addas i fusnesau bach a chanolig sydd eisiau meithrin dealltwriaeth realistig o beth yw DA a beth nad ydyw.
Drwy arddangosiadau, gweithgareddau dan gyfarwyddyd a thrafodaethau, bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn ystyried sut mae modd i DA gefnogi busnesau a strategaethau digidol, wrth ddysgu sut i’w ddefnyddio’n foesegol, yn ddiogel ac yn gyfrifol.
Y nod yw magu hyder i ddefnyddio DA yn ymarferol, er mwyn i chi benderfynu sut gallai DA ychwanegu gwerth at eich sefydliad – a lle na fyddai’n briodol ei ddefnyddio.
Pwy ddylai gymryd rhan?
Mae'r sesiwn hon yn ddelfrydol i’r canlynol: Perchenogion busnesau bach, rheolwyr ac arweinwyr tîm, staff busnesau bach a chanolig sy’n gweithio mewn rolau digidol, neu rolau sy’n ymwneud â gweithrediadau neu arloesi, neu unrhyw un sydd ag ychydig neu ddim profiad blaenorol o ddefnyddio DA.
Mae’n arbennig o berthnasol i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru a ledled y DU sydd eisiau cyflwyniad clir ac ymarferol i DA.
Does dim angen cefndir technegol arnoch chi.
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu
- Deall beth yw DA – a beth nad ydyw
- Defnydd cyffredin o DA ym myd busnes
- DA ym maes strategaeth ddigidol
- Arddangosiadau rhyngweithiol a defnydd ymarferol
- Defnydd moesegol, diogel a chyfrifol
- Crynodeb a'r camau nesaf
Erbyn diwedd y gweithdy, byddwch chi’n gallu gwneud y canlynol:
- Deall egwyddorion craidd DA
- Gwahaniaethu rhwng DA â thechnolegau nad ydyn nhw’n DA
- Nodi lle mae’n bosibl i DA ychwanegu gwerth i fusnes
- Cydnabod cyfyngiadau a risgiau
- Rhoi cynnig ar ddefnyddio offer DA mewn modd diogel a chyfrifol
- Deall ystyriaethau moesegol a llywodraethu
- Teimlo’n hyderus wrth ddefnyddio DA
Manteision cymryd rhan
Drwy gymryd rhan, byddwch chi’n:
- Sicrhau dealltwriaeth gytbwys a realistig o DA
- Datblygu profiad ymarferol o ddefnyddio offer hygyrch
- Dysgu sut mae DA yn cyd-fynd â strategaeth ddigidol ehangach
- Magu hyder yn gwerthuso technolegau newydd
- Gwneud penderfyniadau gwybodus am ei fabwysiadu
- Cysylltu ag arweinwyr busnesau bach a chanolig eraill sy’n ystyried arloesi digidol
Mae’r cwrs hwn yn cefnogi defnydd ystyriol, cyfrifol ac ymarferol o DA – gan ganolbwyntio ar werth busnes go iawn yn hytrach na brolio camarweiniol.
Cofrestrwch nawr
Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael. Dyma argymell i chi gofrestru’n gynnar i sicrhau eich lle yn y sesiwn wyneb yn wyneb rhad ac am ddim hon.
Event Venue & Nearby Stays
Postgraduate Teaching Centre, Cardiff Business School, Colum Drive, Cardiff, United Kingdom
GBP 0.00












