About this Event
(Scroll down for English version)
Os ydych chi’n berchennog ar fusnes twristiaeth a lletygarwch yng Ngwynedd a Eryri ac eisiau gwella eich presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, yna mae ein dosbarth meistr yn addas i chi!
Ymunwch â ni yn swyddfeydd Parc Cenedlaethol Eryri, Penrhyndeudraeth, ddydd Mercher 14 neu ddydd Iau 15 Ionawr 2026, 9:30am – 4:30pm, ar gyfer sesiwn anffurfiol gyda Dafydd Wyn Orritt a Carys Williams o’r asiantaeth gyfathrebu ddwyieithog, Equinox.
Byddwch yn dysgu am y canlynol:
- Datblygu strategaeth cyfryngau cymdeithasol.
- Ennyn diddordeb eich dilynwyr.
- Creu cynnwys da (sy’n perfformio’n dda!)
- Dysgu mwy am gyfleoedd trwy AI.
- Creu cymuned ar-lein.
- Cynyddu gwerthiant/archebion drwy eich gwefan.
- Defnyddio mwy o Gymraeg ar-lein — defnyddio’r ddarpariaeth “Cynnig Cymraeg” gan Gomisiynydd y Gymraeg.
- Hyrwyddo arferion cynaliadwy (heb orfod pregethu!)
- Cyfleoedd partneriaeth twristiaeth gynaliadwy
- Bod yn llysgennad dros eich ardal leol a chael gafael ar becynnau cymorth i fusnesau lleol.
Bydd lluniaeth ar gael drwy gydol y dydd – nodwch unrhyw ofynion dietegol yn y gofod a ddarperir.
Methu gwneud hi? .
Gwybodaeth am Hyfforddwyr …
Dafydd Wyn Orritt — Yn wreiddiol o Lanberis, ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae Dafydd wedi bod gyfrifol am reoli sawl sianel cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys sianeli Instagram cyrff fel WWF Cymru a Mentera — heb anghofio am sianel TikTok Equinox. Drwy fod yn ymwybodol o’r hyn sy’n trendio, mae Dafydd yn adnabyddus am ei awgrymiadau a’i driciau effeithiol – sy’n gwneud bywyd yn haws i reolwyr cyfryngau cymdeithasol, ac yn hybu ymgysylltiad ar yr un pryd.
Carys Williams — Mae Carys yn rhagori mewn ysgrifennu copi dwyieithog, creu cynnwys ac adrodd straeon yn y byd digidol – gyda dealltwriaeth anghystadleuol ar sut i gael y gorau o sianeli o Instagram i LinkedIn. Yn ei rôl yn Equinox, mae hi'n gyfrifol am greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol atyniadol, ac ymgyrchoedd digidol ar gyfer rhai o sefydliadau Net Sero a chynaliadwyedd fwyaf blaenllaw Cymru. Mae ei hangerdd am gyfathrebu dwyieithog effeithiol yn sicrhau bod ei chynnwys yn atseinio gyda chynulleidfaoedd amrywiol ar draws sianeli digidol.
Brysiwch — dim ond lle i 12 o bobl sydd ar gael ym mhob sesiwn. Cofrestrwch yn rhad ac am ddim heddiw!
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a [email protected]
Mae’r sesiynau’n cael eu hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.
----------------------------------------
If you’re a tourism or hospitality business owner in Gwynedd and Eryri and wanting to enhance your social media presence, then our social media masterclass is for you!
Join us at Eryri National Park offices, Penrhyndeudraeth, on Wednesday 14 or Thursday 15 January, 2026 9:30am – 4:30pm, for an informal session with Dafydd Wyn Orritt and Carys Williams from top bilingual communications agency, Equinox.
You will learn about:
- Developing a social media strategy.
- Maintaining engagement with your followers.
- Creating good content (and maintaning great engagement!)
- Learn more about useful AI tools and content creation
- Building an online community.
- Driving sales/bookings via your website.
- Utilising the Welsh Language Commissioner’s Cynnig Cymraeg provision.
- Promoting sustainable practices (without having to preach!)
- Sustainable tourism partnership opportunities
- Becoming an ambassador for your local area and accessing local business toolkit
Refreshments will be provided throughout the day — please note any dietary requirements in the space provided.
Can't make it? .
About the trainers…
Dafydd Wyn Orritt — hailing from Llanberis but currently living in Cardiff, Dafydd has been responsible for the day-to-day management of many social media channels, including the likes of WWF Cymru and Mentera — not to mention, Equinox’s own TikTok channel. With his fingers constantly on the pulse of what’s trending, Dafydd is known for his quick-win tips and tricks — that make life easier for social media managers, while boosting engagement.
Carys Williams — Carys excels in bilingual copywriting, content creation and storytelling in a digital sphere – with unrivalled knowledge of how to get the most out of channels from Instagram to LinkedIn. In her role at Equinox, she is responsible for concepting engaging, platform-specific social media content and campaigns for some of Wales’ leading Net Zero and sustainability organisations. Her passion for impactful bilingual communications ensures her content consistently resonates with diverse audiences across digital channels.
Hurry — spaces are limited to 12 attendees per session. Sign up for free today!
For more information, email [email protected]
Sessions funded by the UK Shared Prosperity fund.
Event Venue & Nearby Stays
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri | Eryri National Park Authority, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol | National Park Office, Penrhyndeudraeth, United Kingdom
GBP 0.00







