About this Event
Mae'r rhestriad hwn o Eventbrite ar gael yn Gymraeg. This Eventbrite listing is available in Welsh.
Ydych chi am sianelu creadigrwydd i gyflawni arloesedd? Ydych chi'n arweinydd sy'n chwilfrydig am sut y gallai creadigrwydd roi hwb i'ch busnes? Ydych chi'n angerddol am y sîn greadigol yn Ne Cymru? Os yw unrhyw un o’r uchod yn swnio fel chi, byddem wrth ein bodd petaech yn ymuno â ni ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Greadigol, digwyddiad gyda'r nod o daflu goleuni ar y cyfleoedd yn ein diwydiant ffyniannus a sbarduno deialog ystyrlon ynghylch adeiladu dyfodol mwy cynhwysol.
Ymunwch â phobl greadigol dylanwadol wrth iddynt archwilio pwysigrwydd cydweithio ymhlith diwydiant, addysg, a datblygu sgiliau, a sut, gyda’n gilydd, y gallwn greu piblinell dalent sy’n barod ar gyfer yr heriau sydd o’n blaenau. Trwy sgyrsiau allweddol ysbrydoledig, sesiwn Holi ac Ateb, ac astudiaeth achos graff, byddwch yn dysgu sut y gall pobl greadigol, a'r sector yn gyffredinol, chwarae rhan ganolog wrth adeiladu dyfodol mwy disglair i fusnesau'r rhanbarth.
Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Gwiriwch ein digwyddiadau eraill:
- Cyllid a Chymorth i Fusnesau
- Gweithgynhyrchu'r Dyfodol
- Technoleg er Daioni
- Esblygiad Digidol a Data
Ynglŷn â Chyfnewidfa PDC
Cyfnewidfa PDC yw’r canolbwynt ar gyfer busnes ac ymgysylltu ym Mhrifysgol De Cymru, sydd wedi’i lleoli ar Gampws Casnewydd a Threfforest. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau i greu cysylltiadau sy'n pontio'r byd academaidd a diwydiant.
Gallwch weld ein Datganiad Preifatrwydd yma a'n Hysbysiad Eventbrite yma.
Diogelu Data a Gwybodaeth Preifatrwydd
Bydd Gwasanaethau Masnachol PDC yn prosesu'r data rydych chi'n ei ddarparu ar ran Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR). CCR yw'r rheolwr a Gwasanaethau Masnachol PDC yw prosesydd y data - sy'n golygu y bydd Gwasanaethau Masnachol PDC yn prosesu'r data o dan gyfarwyddyd CCR.
Mae’n bosibl y caiff eich data ei rannu â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Coleg Caerdydd a'r Fro yn unol â’r cytundeb cydweithredu ar gyfer y prosiect hwn ac i sicrhau bod y digwyddiad hwn yn cael ei gyflwyno’n ddidrafferth. Ewch i hysbysiad preifatrwydd CCR i weld sut y bydd eich data personol yn cael ei brosesu. https://www.cardiffcapitalregion.wales/wp-content/uploads/2024/03/20240311-pia663-cdgp-privacy-notice-vfinal.pdf
Event Venue & Nearby Stays
Cardiff and Vale College, Dumballs Road, Cardiff, United Kingdom
GBP 0.00