About this Event
Join us for our full-day, face-to-face Planned Care National 3Ps Conference on 20th March 2025 at Cardiff City Stadium. This event will celebrate what has already been achieved in delivering the 3Ps Policy Promote, prevent and prepare for planned care | GOV.WALES, and explore how we can move forward together to maximise the health and wellbeing of the people in Wales. This event promises to be a day of networking opportunities, hearing about lived experience, collaboration, shared learning and engaging discussions about how we can PROMOTE healthy lifestyles, PREVENT worsening health and deconditioning, and empower people to pro-actively PREPARE for their treatment and recovery.
We warmly welcome colleagues from a diverse range of organisations including Welsh Government, NHS, Third Sector and anyone who is committed to a healthier Wales.
We are delighted to announce that awards for innovation will be presented by the Cabinet Secretary for Health and Social Care in the following categories:
1. Partnership working,
2. Patient focus,
3. Digitalisation, and
4. Award for the overall winner.
Further information will follow on competition criteria and how to enter. The full agenda will be circulated closer to the date.
If you have any questions about the event, please email us at [email protected]
Ymunwch â ni ar gyfer ein Cynhadledd Genedlaethol ar y 3A, a gynhelir dros ddiwrnod llawn ar 20 Mawrth 2025 yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Bydd y digwyddiad wyneb yn wyneb hwn yn dathlu'r hyn sydd eisoes wedi'i gyflawni wrth weithredu'r Polisi 3A, Annog, atal ac amser paratoi ar gyfer gofal a gynlluniwyd | LLYW.CYMRU. Bydd hefyd yn ystyried sut y gallwn symud ymlaen gyda'n gilydd i sicrhau bod iechyd a llesiant pobl Cymru cystal â phosibl. Mae'r digwyddiad hwn yn argoeli i fod yn ddiwrnod o gyfleoedd rhwydweithio, clywed am brofiadau bywyd, cydweithio a dysgu ar y cyd. Bydd trafodaethau difyr hefyd am sut y gallwn ANNOG ffyrdd iach o fyw, ATAL iechyd rhag gwaethygu ac achosion o ddatgyflyru, a grymuso pobl i neilltuo AMSER PARATOI ymlaen llaw ar gyfer eu triniaeth a'u hadferiad.
Rydym yn croesawu'n gynnes gydweithwyr o ystod amrywiol o sefydliadau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y GIG, sefydliadau'r trydydd sector ac unrhyw un sydd wedi ymrwymo i Gymru iachach.
Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cyflwyno gwobrau am arloesi yn y categorïau a ganlyn:
1. Gweithio mewn partneriaeth,
2. Ffocws ar gleifion,
3. Digideiddio, a
4. Gwobr i'r enillydd cyffredinol.
Bydd rhagor o wybodaeth i ddilyn am y meini prawf ar gyfer cystadlu a sut i gymryd rhan. Bydd yr agenda lawn yn cael ei hanfon yn nes at yr amser.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, mae croeso ichi gysylltu â ni drwy e-bost: [email protected]
Event Venue & Nearby Stays
Cardiff City Stadium, Leckwith Road, Cardiff, United Kingdom
GBP 0.00