About this Event
Awgrymiadau Cyfweliad a Gweithdy Diwrnod Llawn Sgiliau Cyfathrebu
Bydd y gweithdy diwrnod llawn hwn gyda chyfieithu ar y pryd yn rhoi trosolwg i chi o rôl cyfweliadau mewn ymchwil, pryd a sut i'w defnyddio.
Mae'n gyfle i wella eich sgiliau cyfweld allweddol mewn ffordd ryngweithiol ymarferol gan gynnwys gwrando gweithredol, dylunio cwestiynau nad ydynt yn gwestiynau arweiniol a moeseg.
Bydd elfennau ymarferol yn ogystal â myfyrio a rhannu profiadau. Bydd y sesiwn yn ddwyieithog gyda chyfieithu ar gael.
Darperir cinio a lluniaeth.
Gydag Jessie Buchanan, Cyfarwyddwr Gyda’n Gilydd dros Newid ac Elen Bonner o Brifysgol Bangor.
AGENDA
09:30 - 10:00 Cyrraedd a lluniaeth
10:00 – 11:00 Egluro'r cyd-destun ar gyfer y diwrnod, pryd i ddefnyddio cyfweliadau a manteision eu defnyddio, pa dechneg cyfweld i'w defnyddio. Gweithgaredd ymarferol: ymarfer gwrando'n weithredol.
11:00 – 11:15 EGWYL
11:15 – 13:00 Ar-lein vs wyneb yn wyneb, gweithio'n ddwyieithog, deinameg pŵer, ymddygiad wrth gyfweld, diogelu a moeseg. Gweithgaredd ymarferol: creu taflenni gwybodaeth cyfweliad a ffurflenni cydsynio eich hun.
13:00 – 13:45 CINIO
13:45 – 14:45 Gofyn y cwestiynau iawn (gan osgoi cwestiynau arweiniol a thuedd yr ymchwilydd), sgiliau cymryd nodiadau a manteision ac anfanteision defnyddio deallusrwydd artiffisialGweithgaredd ymarferol: drafftio cwestiynau cyfweliad i'w dreialu. Gweithgaredd ymarferol: ymarfer cymryd nodiadau.
14:45 – 15:00 EGWYL
15:00 – 15:45 Gweithgaredd ymarferol: ymarfer cyfweld.
15:45 – 16:00 Crynhoi a'r camau nesaf
Cwestiynau cyffredin
Ar gyfer pwy mae'r seminar hwn?
Mae'r gyfres hon o seminarau am Ymchwil a Arweinir gan y Gymuned yn agored i unrhyw un ond wedi'i theilwra'n benodol ar gyfer unigolion neu'r rhai sy'n gweithio mewn sefydliadau cymunedol ledled Cymru. Nid oes angen unrhyw fath o gymhwyster arnoch i gymryd rhan.
A fydd y seminar yn cael ei recordio?
Na fydd.
A alla i wahodd fy ffrindiau neu gydweithwyr i ddod gyda mi?
Gallwch, mae'r seminarau yn agored i unrhyw un ond mae'n ddefnyddiol os yw pawb yn cofrestru yn gyntaf.
Pwy ddylwn i e-bostio os oes gen i gwestiynau am y digwyddiad hwn?
Anfonwch e-bost at [email protected] os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn a bydd naill ai Amy neu Jessie o Gyda’n Gilydd dros Newid yn ymateb cyn gynted â phosibl.
Interview Tips and Communication Skills Full Day Workshop
This full day, in-person workshop with simultaneous translation will give you an overview of the role that interviews play within research, when and how to use them.
It is an opportunity to improve your key interviewing skills in a practical interactive way including active listening, non-leading question design and ethics.
There will be practical elements as well as reflection and sharing experiences. This workshop will be bilingual and translation will be provided.
Lunch and refreshments will be provided.
With Jessie Buchanan, Director from Together for Change and Elen Bonner from Bangor University.
AGENDA 09:30 - 10:00
Arrival and refreshments 10:00 – 11:00
Setting the scene for the day, the right time to use interviews and the advantages of using them, which interview technique to use. Practical activity: active listening practice
11:00 – 11:15 BREAK
11:15 – 13:00 Online vs in-person interviewing, working bilingually, power dynamics, behaviour whilst interviewing, safeguarding and ethics.
Practical activity: create your own interview information sheets and consent forms
13:00 – 13:45 LUNCH
13:45 – 14:45 Asking the right kind of questions (avoiding leading questions and researcher bias), note taking skills and the pros and cons of using AI
Practical activity: draft your own interview questions to test out
Practical activity: practice note taking
14:45 – 15:00 BREAK
15:00 – 15:45 Practical activity: practising interviewing.
15:45 – 16:00 Wrap up and next steps
Event Venue & Nearby Stays
Canolfan S4C Yr Egin, College Road, Carmarthen, United Kingdom
GBP 0.00








