Advertisement
Grŵp celf-roc o yw HMS Morris sydd wedi wedi bod yn teithio ac yn recordio ers 2015, ac yn rhan o deulu Bubblewrap Collective o Gaerdydd.Enillodd eu dau albwm cyntaf enwebiadau ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, ‘Interior Design’ 2016 a ‘Inspirational Talks’ yn 2018, a maent wedi cael eu disgrifio fel ‘cerddoriaeth bop arloesol, flaengar’ (Earthly Pleasures), ‘cerddoriaeth rhyfedd a hardd’ (ElectronicSound) a ‘sain aml-ddimensiwn sy’n ymlwybro ar draws ardaloedd o sain sydd heb eu harchwilio’ (Clash)’. Mae eu trydydd albwm, Dollar Lizard Money Zombie yn ymwadiad chwareus o’r byd-olwg sy’n troi 99% ohonom i zombies arian sy’n. gweithio i ymerodraethau madfallod doleri.
Dyma’r albwm cyntaf i gynnwys Billy Morley ac Iestyn Huw Jones ar y gitâr a’r drymiau, ac mae’n amrywio o felyster cowboi y 50au i wallgofrwydd electro-metel, o’r prog acwstig crwydrol i synth-pop hyfryd.
Advertisement
Event Venue & Nearby Stays
Heol Y Pentre, Cardiff, United Kingdom