Advertisement
LLEDAENWCH Y GAIR! MAE CROESO I BAWB!20 Medi 2025
Dewch draw i faes parcio Neuadd y Dref yn Llangefni erbyn 10:00 (bydd yr orymdaith yn cychwyn am 10:30).
Yna bydd prynhawn o hwyl i’r teulu (am ddim!) yng Nghae Sioe Môn rhwng 12:00-17:00 gyda nifer o weithgareddau amrywiol.
Am 17:30 bydd y Gig Croeso yn dechrau ym Mhafiliwn Sioe Môn gyda Jambori, Cordia, Fleur de Lys a Celt yn perfformio.
Archebwch eich tocyn am bris gostyngol mewn da bryd: https://www.ticketsource.co.uk/urddgc
Dyma’r amserlen yn fras:
Jambori 5:30 - 6:15
Cordia 6:30 - 7:15
FDL 7:30 - 8:30
Celt 8:45 - 9:45
Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu yn rhannol trwy un o raglenni Menter Môn, sef Balchder Bro Môn, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Advertisement
Event Venue & Nearby Stays
Mona, Anglesey, Llangefni, Bangor, United Kingdom
Tickets