About this Event
Book your place - Film Forum
*This event is exclusively for members of Film Hub Wales. If you’re not a member, you can join here.
We’re making time to talk about films!
Join us online for our quarterly programming get-togethers where we’ll talk about a selection of the best new British independent and international film releases.
The sessions are hosted by curator Rachel Pronger. There will be film tips for your upcoming programme, time to talk with peers about the films you’re looking forward to and to discover the ones you might otherwise miss. We’ll also discuss how to programme and market them.
These sessions will run quarterly to support you with year-round audience development. Exhibitors of all shapes and sizes are welcome, we’ll explore how to make the sessions useful for everyone.
About Rachel:
Rachel Pronger is a curator, writer and programme consultant. She began her career working in communications for the BFI London Film Festival, Picturehouse Cinemas and Film Hub Scotland, before moving into programming roles at Alchemy Film & Arts, Tyneside Cinema, Sheffield DocFest and Aesthetica Short Film Festival. As co-founder of feminist film collective Invisible Women she has co-curated programmes and delivered events for partners such as the BFI Southbank, Cinema Rediscovered, Eye Filmmuseum Amsterdam, BalkanCanKino Athens, HOME Manchester and Glasgow Film Theatre. Her writing on film has been published by outlets including Sight & Sound, The Guardian, MUBI Notebook, Little White Lies and BBC Culture. She also regularly chairs Q&As, panels and workshops centred on feminism, archiving and film history.
When:
- Thursday 16th January 2025, 10am-12pm
- Online (via Zoom)
We look forward to seeing you!
Archebwch eich lle - Fforwm Ffilm
*Mae hwn yn ddigwyddiad ecsgliwsif ar gyfer aelodau Canolfan Ffilm Cymru. Os nag ydych chi’n aelod, gallwch ymuno yma.
Rydyn ni’n creu amser i siarad am ffilmiau!
Ymunwch â ni ar-lein ar gyfer ein cyfarfodydd rhaglennu chwarterol lle byddwn yn siarad am ddetholiad o ffilmiau annibynnol a rhyngwladol newydd gorau Prydain.
Cynhelir y sesiynau gan y curadur Rachel Pronger
Bydd awgrymiadau ffilm ar gyfer eich rhaglen sydd i ddod, a chael amser i sgwrsio gyda chyfoedion am y ffilmiau rydych chi’n edrych ymlaen at eu gweld a darganfod ffilmiau y byddech fel arall yn eu colli. Byddwn hefyd yn trafod sut i raglennu a marchnata’r ffilmiau.
Bydd y sesiynau hyn yn rhedeg bob chwarter i'ch cefnogi gyda datblygiad cynulleidfa gydol y flwyddyn. Mae croeso i arddangoswyr o bob math – byddwn yn archwilio’r ffordd orau o wneud y sesiynau’n ddefnyddiol i bawb.
Ynglŷn â Rachel:
Mae Rachel Pronger yn guradur, ysgrifennwr ac ymgynghorydd rhaglen. Cychwynnodd ei gyrfa yn gweithio ym maes cyfathrebu i Ŵyl Ffilmiau Llundain y BFI, Picturehouse Cinemas a Chanolfan Ffilm yr Alban, cyn symud i faes rhaglennu yn Alchemy Film & Arts, Tyneside Cinema, Sheffield DocFest ac Aesthetica Short Film Festival. Fel cyd-sylfaenydd cymundod ffilm ffeminist Invisible Women, mae Rachel wedi cyd-guradu rhaglenni a chynnal digwyddiadau ar gyfer partneriaid megis BFI Southbank, Cinema Rediscovered, Eye Filmmuseum Amsterdam, BalkanCanKino Athens, HOME Manceinion a Glasgow Film Theatre. Mae ei gwaith ysgrifenedig am ffilm wedi cael ei gyhoeddi gan gwmnïau megis Sight & Sound, The Guardian, MUBI Notebook, Little White Lies a BBC Culture. Mae hi hefyd yn rheolaidd yn cadeirio sesiynau holi ac ateb, paneli a gweithdai sy’n ffocysu ar ffeministiaeth, archifo a hanes ffilm.
- Dydd Iau 16 Ionawr 2025, 10am-12pm
- Ar-lein (Zoom)
Rydym yn edrych ymlaen i’ch gweld!
Image / Delweddau: © Mission Photographic / Anim18, Chapter, Cardiff/Caerdydd
Event Venue
Online
GBP 0.00