About this Event
Discover the Gower: a guided coastal nature walk
Join marine biologists Winter Dotto and Matt Green for a relaxed two‑hour clifftop walk along the beautiful Gower coast. Along the way, you’ll hear the stories behind hidden shipwrecks, discover the marine life that thrives in our huge tidal range, and learn how this coastline was shaped millions of years ago.
This isn’t just a walk — it’s an interactive learning experience. We’ll pause at key viewpoints for short, engaging talks on:
- The shore: marine life zonation and how different species thrive
- The ocean: understanding the power of the world’s 2nd largest tidal range at the offshore Mixon Sandbank
- Wildlife: spotting seals and Gower seabirds — and if we’re lucky, even porpoises or dolphins
- History and earth: local geology, nearby nature reserves and the stories of Gower shipwrecks
Moderate walk from Rotherslade Bay to Limeslade Bay and back (approx. 2.5 miles over 2.5 hours), no dogs please. Suitable for curious marine‑nature enthusiasts aged 14+.
This event is supported by Local Places for Nature 2025-27 grant funding provided by Welsh Government, administered by WCVA and managed by Swansea Council in Swansea.
-----------------------------------------------------------------------------------------------------
Darganfod Gŵyr: taith dywys natur ar hyd yr arfordir
Ymunwch â'r biolegwyr môr Winter Dotto a Matt Green am daith gerdded ddwy awr hamddenol ger y clogwyni ar hyd arfordir hardd penrhyn Gŵyr. Ar hyd y ffordd, byddwch yn clywed y straeon y tu ôl i longddrylliadau cudd, yn darganfod y bywyd morol sy'n ffynnu yn ein hamrediad llanw enfawr, ac yn dysgu sut cafodd yr arfordir hwn ei ffurfio filiynau o flynyddoedd yn ôl.
Nid taith gerdded yn unig yw hon - mae'n brofiad dysgu rhyngweithiol. Byddwn yn oedi wrth olygfannau allweddol ar gyfer sgyrsiau byr, diddorol ar:
- Y lan: parthu bywyd morol a sut mae gwahanol rywogaethau'n ffynnu
- Y cefnfor: deall pŵer 2il amrediad llanw mwyaf y byd ar fanc tywod Mixon Sandbank ar y môr.
- Bywyd gwyllt: cadw llygad am forloi ac adar y môr - ac os ydym yn lwcus, hyd yn oed ambell lamhidydd neu ddolffin
- Hanes a'r ddaear: daeareg leol, gwarchodfeydd natur cyfagos a straeon am longddrylliadau Gŵyr
Taith gerdded gymedrol o Fae Rotherslade i Fae Limeslade ac yn ôl (tua 2.5 filltir dros 2.5 awr), dim cŵn os gwelwch yn dda. Yn addas i selogion natur forol chwilfrydig 14+ oed.
Cefnogir y digwyddiad hwn gan gyllid grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur 2025-27, a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac a reolir gan Gyngor Abertawe yn Abertawe.
Event Venue & Nearby Stays
Rotherslade (outside Surfside Cafe, Rotherslade), Surfside Cafe, Swansea, United Kingdom
USD 0.00







