Advertisement
Mae dathliad Croeso Cyngor Abertawe yn dychwelyd dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi, gyda’r digwyddiadau Croeso x Nightworks yn cynnig rhaglen fywiog o gigs dwyieithog, mynediad am ddim ar draws lleoliadau llawr gwlad y ddinas.Gyda’r nos ar y 1af o Fawrth, mae Gwilym Bowen Rhys yn chwarae sioe acwstig arbennig yn Nhŷ Tawe. Wedi dros ddegawd o ganu ar lwyfannau ledled Cymru a thu hwnt, mae Gwilym Bowen Rhys wedi sefydlu ei hun fel un o berfformwyr acwstig amlycaf Cymru. Yn hanu o Arfon, fe’i magwyd yn y traddodiad Eisteddfodol, a dros y blynyddoedd fe ddatblygodd ei ddiddordeb mewn canu gwerin a hen ganeuon a cherddi. Mae ei gerddoriaeth yn gyfuniad o’r hen a’r newydd, a’i lais a’i berfformiadau yn symud yn ddiymdrech rhwng y swynol a melfedaidd i’r gwyllt ac amrwd.
Yn chwarae cyn Gwilym bydd Llio Heledd, cerddor o Dreforys, Abertawe yn wreiddiol. Astudiodd yn Aberystwyth ac Utrecht a bellach mae’n byw yng Nghaerdydd. Yno, dechreuodd gyfansoddi caneuon gyda’r gitâr, a cheisio’r gynghanedd. Gwelir defnydd o’r modd hynafol yma o farddoniaeth Gymraeg yn ei chaneuon ac yn ei sengl gyntaf “Afon” sy’n adlewyrchiad ar brofiad o fagwraeth Gymraeg yn Abertawe fel plentyn ifanc.
*****
Swansea Council’s Croeso celebration is back this St David’s Day weekend, with the return of Nightworks, a vibrant programme of bilingual, free-entry gigs across the city’s grassroots music venues.
On the evening of St David’s Day itself, Gwilym Bowen Rhys plays a special intimate solo show at the Tŷ Tawe venue. Hailing from Eryri - the mountainous North West of Wales - Gwilym has been singing in his native Welsh language since he can remember, giving him a deep connection with the traditional songs and music of his land. His music combines old melodies and lyrics, intricate guitar arrangements, and a rich powerful voice that effortlessly swings from velveteen sweetness to earthy grit.
Gwilym is supported by Llio Heledd, a musician originally from Morriston in Swansea, and after studying in Aberystwyth and Utrecht, now based in Cardiff. There, she began to compose songs with the guitar and using cynghanedd. The use of this ancient mode of Welsh poetry can be seen in her songs and in her debut single "Afon" which is a reflection on the experience of growing up in Swansea.
Advertisement
Event Venue & Nearby Stays
Tŷ Tawe, 9 Christina Street,Swansea, United Kingdom
Tickets
Concerts, fests, parties, meetups - all the happenings, one place.











