About this Event
Creative Cardiff hosts a monthly gathering for artists, businesses and creative freelancers called 'Creative Cuppa'. These informal events will bring the creative community together for the all-important three Cs - connection, creativity and caffeine.
Join us for a chance to meet, connect and learn from other creatives, whether you're just starting out or have been working in the industry for decades. Each Creative Cuppa starts with a TED-style talk on a theme that is relevant across all creative sectors, followed by an informal hour to sit down, chat and eat cake! These are relaxed gatherings to meet other creatives and share opportunities.
The Art of Starting Over with The Sustainable Studio
January is often seen as a period of fresh starts and beginning new things; new resolutions, new hobbies and new short-lived post-Christmas gym memberships! But how do you approach starting a new business or venture in the creative sector and how do you make it sustainable?
For January's Creative Cuppa, we're delighted to be joined by Julia Harris and Sarah Valentin, co-founders of The Sustainable Studio, a creative coworking, exhibition and event venue in the heart of the city. Initally based in a historic munitions factory on Curran Road, the studio recently relocated to the former Transport Club on Tudor Street, marking an exciting new chapter in its journey. In addition to their work at The Sustainable Studio, Julia and Sarah have supported the inception of The Canopi CIC, a vibrant new venue, exhibition space, and coffee bar. The Canopi focuses on bringing art, fashion, and music to the forefront, creating an inclusive hub for creativity and grassroots culture in Cardiff.
Since its inception in July 2016, The Sustainable Studio has been a beacon of creativity and collaboration in Cardiff. Julia and Sarah have been dedicated to empowering grassroots organisations and amplifying underrepresented voices. Their work spans a broad range of initiatives, from delivering accessible short courses in fashion and design to curating programs focused on industry-relevant skills such as fashion shows, self-promotion, personal development, and entrepreneurial idea generation.
_
Mae Caerdydd Creadigol yn cynnal cyfarfod misol ar gyfer artistiaid, busnesau a gweithwyr llawrydd creadigol o'r enw 'Paned i Ysbrydoli'. Bydd y digwyddiadau anffurfiol hyn yn dod â'r gymuned greadigol ynghyd ar gyfer y tair elfen hollbwysig - cysylltiad, creadigrwydd a chaffein.
Ymunwch â ni am gyfle i gwrdd, cysylltu â dysgu oddi wrth bobl greadigol eraill, p'un a ydych chi newydd ddechrau neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers degawdau. Mae pob Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs, tebyg i sgwrs 'TED-talk', ar thema sy’n berthnasol ar draws yr holl sectorau creadigol, ac yna awr anffurfiol i eistedd i lawr, sgwrsio a bwyta cacen! Mae'r rhain yn gyfleoedd anffurfiol i gwrdd â phobl greadigol eraill a rhannu cyfleoedd, heb rwydweithio ffurfiol.
Cychwyn o''r Cychwyn gyda The Sustainable Studio
Mae Ionawr yn aml yn cael ei weld fel cyfnod o ddechrau pethau newydd; addunedau newydd, hobïau newydd ac aelodaeth tymor-byr newydd o'r gym ar ôl y Nadolig! Ond sut ydych chi'n mynd ati i ddechrau busnes neu fenter newydd yn y sector creadigol a sut ydych chi'n ei wneud yn gynaliadwy?
Ar gyfer Paned i Ysbrydoli mis Ionawr, rydym yn falch iawn o gael cwmni Julia Harris a Sarah Valentin, cyd-sylfaenwyr The Sustainable Studio, sy’n lleoliad creadigol ar gyfer cydweithio, arddangos a digwyddiadau yng nghanol y ddinas. Wedi'i lleoli yn wreiddiol mewn ffatri arfau hanesyddol ar Heol Curran, symudodd y stiwdio yn ddiweddar i'r hen Glwb Trafnidiaeth ar Stryd Tudor, gan nodi pennod newydd gyffrous yn ei thaith. Yn ogystal â’u gwaith yn The Sustainable Studio, mae Julia a Sarah wedi cefnogi sefydlu The Canopi CIC, lleoliad newydd bywiog, man arddangos, a bar coffi. Mae’r Canopi yn canolbwyntio ar ddod â chelf, ffasiwn, a cherddoriaeth i flaen y gad, gan greu canolbwynt cynhwysol ar gyfer creadigrwydd a diwylliant llawr gwlad yng Nghaerdydd.
Ers ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2016, mae The Sustainable Studio wedi bod yn esiampl o greadigrwydd a chydweithio yng Nghaerdydd. Mae Julia a Sarah wedi bod yn ymroddedig i rymuso sefydliadau ar lawr gwlad a chynyddu lleisiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae eu gwaith yn cynnwys ystod eang o fentrau, o gyflwyno cyrsiau byr hygyrch mewn ffasiwn a dylunio i guradu rhaglenni sy’n canolbwyntio ar sgiliau sy’n berthnasol i’r diwydiant fel sioeau ffasiwn, hunanhyrwyddo, datblygiad personol, a chynhyrchu syniadau entrepreneuraidd.
Event Venue & Nearby Stays
The Sustainable Studio, 59-61 Tudor Street, Cardiff, United Kingdom
GBP 0.00