
About this Event
Diwrnod Adnabod Cacwn i Ddechreuwyr yng ngerddi muriog Ystagbwll
Ymunwch â Swyddog Prosiect y Gardwenynen Feinlais, Tom Bucher-Flynn am ddiwrnod yn y maes yn dod i adnabod cacwn ystad Ystagbwll
Bydd y diwrnod yn dechrau gyda’r swyddog prosiect Tom yn esbonio’n gryno sut i adnabod cacwn cyffredin gan ddefnyddio’r canllawiau a ddarparwyd. Yna byddwn yn archwilio parc llyn yr hendre ac yn cael awgrymiadau da am chwilio am gacwn yn y maes, eu dal yn foesegol ac adnabod cacwn yn y maes. Yn ddiweddarach yn y prynhawn, byddwn yn treialu rhan o t Beewalk, sef arolwg monitro gwyddoniaeth dinasyddion yr ymddiriedolaeth i ymgyfarwyddo gwirfoddolwyr â’r fethodoleg.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac yn addas i oedolion o bob gallu, gan gynnwys dechreuwyr heb unrhyw brofiad, ond er mwyn gallu manteisio’n llawn, rydym yn argymell eich bod yn ymgyfarwyddo â rhai o weminarau hyfforddi'r Ymddiriedolaeth ar Adnabod Cacwn Cyffredin.
www.youtube.com/playlist?list=PLPhsa9yg1KN_QZSMGeoX19MUVA82WWA8L
cyfarfod yn y maes parcio i gychwyn am 12:30
Dewch â dillad addas a bwyd ar gyfer prynhawn yn yr awyr agored, bydd yr holl ddeunyddiau ac offer hyfforddi yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim.
Byddwch yn ymwybodol y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei aildrefnu os bydd tywydd gwael lle nad yw'n debygol y bydd cacwn i’w gweld.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â [email protected]
Cyflwynir ein cyrsiau hyfforddi rhad ac am ddim fel rhan o Brosiect y Gardwenynen Feinlais sydd yn rhan o raglen 'Natur am Byth!' Partneriaeth Natur am Byth yw prosiect adferiad gwyrdd blaenllaw Cymru. Mae'n dod â naw elusen amgylcheddol a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ynghyd i gyflwyno rhaglen treftadaeth naturiol ac allgymorth fwyaf y wlad i achub nifer o rywogaethau rhag diflannu ac i ailgysylltu pobl â natur. Ariennir y bartneriaeth gan y Loteri Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru drwy Gynllun Cymunedau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi a weinyddir gan CGGC, Cyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Esmée Fairbairn a nifer o ymddiriedolaethau elusennol, sefydliadau a rhoddwyr corfforaethol eraill. Hoffem ddiolch i bawb am wneud y digwyddiad hwn yn bosibl
www.naturalresources.wales/about-us/what-we-do/our-projects/nature-projects/natur-am-byth/?lang=en
Join Shrill carder bee project officer Tom Bucher-Flynn for a field day getting to know the bumblebees of Cardiff
The day will start with project officer Tom briefly explaining how to identify common bumblebees using the provided guides. We will then explore hendre lake park and pick up top tips about looking for, ethicaly catching and identifying bumblebees in the field. Later in the afternoon, we will pilot a section of a t Beewalk, the trust's citizen science monitoring survey to familiarise volunteers with the methodology.
This event is free and is suitable for adults of all abilities, including absolute beginners, although to get the most out of it we recommend familiarising yourself with some of the Trust's training webinars in identifying Common Bumblebees
www.youtube.com/playlist?list=PLPhsa9yg1KN_QZSMGeoX19MUVA82WWA8L
meet in the carpark for a 12:30 start
Please bring suitable clothing and provisions for an afternoon outdoors, all training materials and equipment will be provided free of charge.
this event will be rescheduled in the event of poor weather where bumblebees are unlikely to be seen.
For more information please contact [email protected]
Our fee training courses are delivered as part of the Shrill carder bee project which is included in the 'Natur am Byth!' Programme. Natur am Byth partnership is Wales’ flagship Green Recovery project. It unites nine environmental charities with Natural Resources Wales (NRW) to deliver the country’s largest natural heritage and outreach programme to save species from extinction and reconnect people to nature. The parternship is funded by players of the National Lottery, Natural resources Wales, Welsh Government through The Landfill Disposals Tax communities scheme Administered by the WCVA, The Arts Council of Wales, The Esmée Fairbairn Foundation and a number of other charitable trusts, foundations and corporate donors. All of which we’d like to thank for making this event possible
www.naturalresources.wales/about-us/what-we-do/our-projects/nature-projects/natur-am-byth/?lang=en


Event Venue & Nearby Stays
Hendre Lake, hendre lake park, cardiff, United Kingdom
GBP 0.00