About this Event
Ymunwch â ni am noson llawn hwyl a sbri yn Llyfrgell y Dre, Aberystwyth, mewn cwmni'r awdures Rhian Cadwaladr.
Bydd Rhian yn arwain Sesiwn Stori yn darllen un o'i straeon allan o'r gyfres boblogaidd Ynyr yr Ysbryd. Yna, bydd cyfle i'r plant ddilyn Helfa Ysbrydion o amgylch ardal allanol y Llyfrgell (mae’n rhaid i riant/gofalwr fod yn bresennol gyda phob plenty trwy gydol y sesiwn).
Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac yn addas i blant 4-7 oed. Trefnir mewn partneriaeth rhwng Cyngor Llyfrau Cymru a Llyfrgell y Dre, Aberystwyth. Bydd cyfle i brynu llyfrau Ynyr yr Ysbryd, yn ogystal â chyfrolau eraill gan yr awdures, Rhian Cadwaladr.
Event Venue
Aberystwyth Public Library, Town Hall Canolfan Alun R. Edwards Queen's Square, Aberystwyth, United Kingdom
