Advertisement
Rhyddhawyd albym gyntaf Yws Gwynedd, ‘Codi/\Cysgu’, yn ôl yn 2014 fel prosiect unigol, ond wrth rhoi band at ei gilydd i deithio’r caneuon yn fyw, datblygodd perthynas yr aelodau i’r pwynt bod yr ail albym wedi’i sgwennu ar y cyd gan Rich James Roberts, Ifan Siôn Davies, Emyr Prys Davies ac Ywain Gwynedd. Roedd y band wedi teithio cryn dipyn cyn rhyddhau ‘Anrheoli’ yn 2016, a blwyddyn yn ddiweddarach cafwyd y flwyddyn ora oll, oedd yn cynnwys set fythgofiadwy yn Gwyl Rhif 6 Portmeirion, perfformio gyda gerddorfa lawn yn Pafiliwn Eisteddfod Môn, a dennu’r dorf fwyaf i Maes B sydd wedi bod hyd heddiw. Penderfynodd y band adael eu offerynnau’n segur wedi’r flwyddyn honno wrth i gwpl o’r aelodau gymeryd saib i fagu teulu. Wedi cyfnodau clo’r pandemic, daeth y grwp yn ôl at eu gilydd i ysgrifennu mwy o gerddoriaeth a bellach mae’r offerynnau yn ôl ar waith ac mae’r band yn chwarae’n fyw unwaith eto. yn 2024, rhyddhawyd eu 3ydd albym stiwdio – Tra Dwi’n Cysgu’, yn hoelio lle’r band fel un o rhai mwyaf cynhyrchiol Cymru.
Advertisement
Event Venue & Nearby Stays
Heol Y Pentre, Cardiff, United Kingdom
Concerts, fests, parties, meetups - all the happenings, one place.










