About this Event
Dewch i brif ddigwyddiad economi iaith Cymru!
Ymunwch â ni am ddiwrnod ysbrydoledig yn Parc y Scarlets, Llanelli, ar ddydd Iau 28 Tachwedd — i drafod gwir effaith economi iaith yn ardal ARFOR.
Gyda’r adnabyddus Angharad Mair yn arwain y gynhadledd, byddwn yn clywed gan lu o siaradwyr gwadd yn ystod y dydd, gan gynnwys straeon y busnesau sydd eisoes wedi buddio o gefnogaeth ARFOR yng Ngheredigion, Sir Gâr, Gwynedd a Môn — gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn.
Yna, bydd mwy o arloeswyr yn ymuno â ni — sef y bobl tu ôl i brosiectau peilot Cronfa Her ARFOR. Cawn glywed mwy am yr heriau maen nhw wedi mynd i’r afael â nhw yn eu cymunedau ar draws sectorau, eu llwyddiannau hyd yma a’u gobeithion at y dyfodol.
Cewch hefyd gyfle i rwydweithio mewn ffordd hwyliog, anffurfiol, gyda phobl o’r un anian i rannu syniadau a gwneud cysylltiadau gwerthfawr — yn ogystal â chlywed gan rai enwau cyfarwydd eraill trwy gydol y dydd.
Bydd ffair fasnach hefyd yn cael ei chynnal, ichi ddysgu mwy am gynnyrch a gwasanaethau rhai o fusnesau ARFOR rhwng 9.30yb a 3.30yp a lluniaeth a rhywfaint o adloniant i’ch diddanu. Edrychwn ymlaen at weld chi yno!
Attend the main event on the Welsh language economy!
Join us for an inspiring, jam-packed day at Parc y Scarlets, Llanelli, on Thursday 28 November — where we’ll explore the true economic impact of the Welsh language economy on the ARFOR region.
With the distinguished Angharad Mair leading the conference, we will hear from a range of guest speakers throughout the day, including the stories of a handful of businesses that have benefited from ARFOR’s support in Ceredigion, Carmarthenshire, Gwynedd and Môn — with a Q&A session to follow.
We will then be joined by more innovators — the people behind ARFOR Challenge Fund’s pilot projects. They’ll talk about the challenges they’ve addressed within their communities and across sectors, their successes to date and their hopes for the future.
You’ll also have the opportunity to take part in some fun, informal networking activities, helping you bounce ideas and make valuable connections — as well as hearing from additional familiar faces throughout the day.
A business expo will also be running between 9.30am and 3.30pm so you can find out more about the produce and services some ARFOR businesses have to offer — alongside refreshments and light entertainment. We look forward to seeing you there!
Event Venue & Nearby Stays
Parc y Scarlets, Pemberton Park, Llanelli, United Kingdom
GBP 0.00