 
                  		
                  	                  		About this Event
Cymunedau Creadigol gyda’r Artist Wendy Couling
Sesiynau collage a chyfryngau cymysg creadigol am ddim i oedolion
Camwch i le hamddenol a chyfeillgar lle mae creadigrwydd yn llifo, a darganfod pleser cyfryngau cymysg a collage, gan fynegi gweadau mewn haenau i greu effeithiau 3D. Mae’r sesiynau crefftau ymarferol yma’n gwahodd oedolion o bob gallu i arbrofi gydag amrywiaeth o ddeunyddiau a thechnegau celf.
7 Tachwedd – ‘Collage Lliwiau’r Hydref' – Yma, byddwn yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n dod i’r sesiwn arbrofi gyda deunyddiau a chyfuniad o ddefnyddio technegau argraffu syml a collage.
14 Tachwedd – Creu ‘Ffurfiau Coedwig 3D: Madarch a Mes’ – Rhowch gynnig ar dechnegau papier mâché syml i greu madarch a mes llawn gwead gan ddefnyddio cyfuniad o ddeunyddiau. Dyma weithdy i oedolion sy’n cynnig lle braf, cefnogol i arbrofi gyda siapiau, manylion a haenu mewn tri dimensiwn.
12 Rhagfyr – Bywyd Gwyllt y Gaeaf: Collage Papur wedi’i Rwygo – Cyfle i greu gwaith celf gweadog o’ch hoff anifail o’r goedwig gan ddefnyddio papur wedi’i rwygo a chyfryngau cymysg. Sesiwn hamddenol i oedolion yn edrych ar dechnegau collage ac ysbrydoliaeth dymhorol.
19 Rhagfyr – Bocs Cysgodion 3D Nadoligaidd: Collage Cyfryngau Cymysg – Dewch i greu eich bocs cysgodion eich hun ar thema’r Nadolig gydag amrywiaeth o dechnegau collage a haenu. Yn y sesiwn hamddenol hon, byddwch yn arbrofi â deunyddiau cyfryngau cymysg ac yn dysgu sut i greu dyfnder a gwead, gan gynnwys elfennau tymhorol, delweddau a chyffyrddiadau personol. Ffordd greadigol o ddathlu tymor y Nadolig a chreu rhywbeth unigryw i’w arddangos neu ei roi’n anrheg.
Amser y sesiynau – 10.30am–12.30pm
Lleoliad – Oriel Mostyn, 12 Vaughan Street, Llandudno, LL30 1AB
Mae Cymunedau Creadigol yn cael ei arwain gan Creu Conwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Cymunedau Creadigol with Artist Wendy Couling
Free creative collage & mixed media sessions for adults
Step into a relaxed and friendly space where creativity flows, and discover the joy of mixed media and collage, combining tactile textures with expressive layering to create 3D effects. These hands-on craft sessions invite adults of all skill levels to explore a rich variety of art materials and techniques.
November 7th - ‘Colours of Autumn Collage' – At this session will give participants the opportunity to explore materials and a combination of using simple printmaking techniques and collage.
November 14th - Creating ‘3D Woodland Forms: Mushrooms & Acorns’ - Explore simple papier mâché techniques to create textured mushrooms and acorns using a mix of materials. This adult workshop offers a calm, supportive space to experiment with shape, surface detail, and layering in three dimensions
December 12th - Winter Wildlife: Torn Paper Collage- Create a textured artwork of your favourite woodland animal using torn paper and mixed media. A relaxed adult session exploring collage techniques and seasonal inspiration.
December 19th – 3D Festive Shadowbox: Mixed Media Collage - Create your own Christmas-inspired shadowbox using a range of collage and layering techniques. In this relaxed session, you’ll explore mixed media materials and learn how to build depth and texture, incorporating seasonal objects, imagery, and personal touches. A creative way to celebrate the festive season and craft something unique to display or gift.
Session times - 10.30am – 12.30pm
Venue - Mostyn Gallery, 12 Vaughan Street, Llandudno, LL30 1AB
Cymunedau Creadigol is led by Creu Conwy, Conwy County Borough Council and funded by Arts Council of Wales.
Event Venue & Nearby Stays
Oriel Mostyn Gallery, 11-12 Vaughan Street, Llandudno, United Kingdom
USD 0.00
 
								











