![Prynwyr Tro Cyntaf - Deall y Rhifau \/ First Time Buyers - Know Your Numbers](https://cdn.stayhappening.com/events5/banners/36873c1b2b8415f083907b4677424293ea91b4337add30fc7dcf6f5ec2b6fbf5-rimg-w1200-h599-dc171615-gmir.jpg?v=1718728863)
About this Event
Please scroll down for English
Prynwyr Tro Cyntaf: Deall y Rhifau
Ydych chi’n brynwr cartref tro cyntaf sydd wedi drysu gan y rhifau a’r termau yn y broses
cael morgais? Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn addysgiadol RHAD AC AM DDIM hon sydd
wedi’i chynllunio i helpu oedolion 19 oed a hŷn nad ydynt yn meddu ar TGAU gradd C neu
uwch. Bydd ein gweithdy diddorol yn datgyfrinio agweddau ariannol ar brynu eich cartref
cyntaf, gan eich grymuso â’r wybodaeth a’r hyder i wneud penderfyniadau gwybodus.
Yr Hyn Byddwch chi’n ei Ddysgu
- Hanfodion Morgais: Cael eglurder ynghylch termau allweddol fel cyfraddau llog, blaendaliadau, a chymarebau benthyciad-i-werth.
- Darllen Data Graffigol: Dysgu dehongli pictogramau, graffiau bar, a graffiau llinell i ddeall tueddiadau ac opsiynau morgais.
- Cyfrifiadau Ymarferol: Meistroli cyfrifiadau hanfodol ar gyfer taliadau misol a gordaliadau, gan ddefnyddio senarios bywyd go iawn.
- Ennill Cymhwyster: Cwblhau’r sesiwn a chael y posibilrwydd o gyflawni Uned
Agored, gan roi hwb i’ch cymwysterau cydnabyddedig.
Pam Mynychu?
Mae deall y rhifau y tu ôl i forgeisi yn hollbwysig o ran gwneud penderfyniadau doeth
ynghylch prynu cartref. Bydd y sesiwn hon, rhan o’r prosiect Herio a ariennir gan y Cynllun
Ffyniant Bro, yn rhoi’r sgiliau i chi lywio’r broses morgeisio yn hyderus, gan sicrhau eich
bod wedi eich paratoi’n dda i gael gafael ar eich cartref cyntaf.
Manylion y Digwyddiad:
- Dyddiad ac Amser: Dydd Mawrth 2il Gorffennaf, 6.30-8.30pm
- Lleoliad: Plas Llanelly
- Pris: Am ddim
- Trefnwyd gan: Coleg Sir Gâr
- Cefnogwyd gan: Beth Thomas o gwmni Sturgess Mortgage Solutions
Ymunwch â ni a chymryd y cam cyntaf tuag at berchenogaeth cartref, gyda hyder!
-------------------------------------------------------------------------------------------
First Time Buyers: Understanding the Numbers
Are you a first-time homebuyer confused by the numbers and terms in the mortgage process? Join us for this FREE informative session designed to help adults aged 19+ without a GCSE grade C or above. Our engaging workshop will demystify the financial aspects of buying your first home, empowering you with the knowledge and confidence to make informed decisions.
What You'll Learn:
- Mortgage Basics: Gain clarity on key terms like interest rates, deposits, and loan-to-value ratios.
- Reading Graphical Data: Learn to interpret pictograms, bar graphs, and line graphs to understand mortgage trends and options.
- Practical Calculations: Master essential calculations for monthly payments and overpayments, using real-life scenarios.
- Earn a Qualification: Complete the session and have the potential to earn an Agored Unit, boosting your credentials.
Why Attend?
Understanding the numbers behind mortgages is crucial for making smart homebuying decisions. This session, part of the Multiply project funded by the Leveling Up Scheme, will equip you with the skills to navigate the mortgage process confidently, ensuring you're well-prepared to secure your first home.
Event Details:
- Date & Time: Tuesday 2nd July, 6.30-8.30pm
- Location: Plas Llanelly House
- Price: Free
- Organised by: Coleg Sir Gar
- Supported by: Beth Thomas of Sturgess Mortgage Solutions
Join us and take the first step towards homeownership with confidence!
![Event Photos](https://cdn.stayhappening.com/events3/banners/86fb78f0-2d91-11ef-b949-abd54a61a980-rimg-w720-h720-dc161315-gmir.jpg)
Event Venue & Nearby Stays
Plas Llanelly House, Bridge Street, Llanelli, United Kingdom
GBP 0.00