O'r Ymylon i'r Brif Ffrwd /From the Margins to the Mainstream (1-Day)

Wed Jul 10 2024 at 10:00 am to 04:30 pm

Wrexham University | Wrexham

Glyndwr Research
Publisher/HostGlyndwr Research
O'r Ymylon i'r Brif Ffrwd \/From the Margins to the Mainstream (1-Day)
Advertisement
Storytelling as a method for change in health, care and wellbeing services in Wales – A 1-Day Sandpit (In Person)
About this Event

*Please scroll down for English*

‘O’r Ymylon i’r brif ffrwd’: Adrodd hanesion fel dull i greu newid o fewn gwasanaethau iechyd, gofal a lles yng Nghymru - Pwll Tywod undydd (wyneb yn wyneb)

10 Gorffennaf 2024

Fe’i cynhelir ym Mhrifysgol Wrecsam

Mae hanesion yn ein helpu i wneud synnwyr o’r byd a deall y gwahanol ffydd rydym yn ei brofi. Yn ddiweddar, rydym wedi gweld diddordeb cynyddol mewn defnyddio adrodd hanesion mewn gwaith ymchwil, gwelliant i wasanaethau a datblygu polisïau, yn enwedig o fewn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Gall gwaith o’r fath helpu i amrywio’r lleisiau yn y meysydd hyn. Er gwaethaf y diddordeb hwn, a rhai enghreifftiau o’r ymarfer hwn ar waith ledled Cymru, nid yw mabwysiadu adrodd hanesion - yn enwedig ymarfer sy’n seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn - yn arferol mewn lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol a lles. Rydym ni eisiau newid hynny.

Bydd y digwyddiad pwll tywod undydd hwn, sy’n un wyneb yn wyneb, yn dod ag ymarferwyr ynghyd o’r sectorau cyhoeddus a’r trydydd sector o Gymru gyfan i archwilio sut gallwn fewnosod defnydd adrodd hanesion i gefnogi ymarfer a arweinir gan dystiolaeth, a dulliau o wneud penderfyniadau o fewn lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol a lles.

Yn y pwll tywod, byddwn yn

•Clywed sgyrsiau byr gan ystod o siaradwyr ynglŷn â dulliau arloesol sy’n seiliedig ar adrodd hanesion, o Gymru a thu hwnt

•Meithrin perthnasoedd, rhannu gwybodaeth a sgiliau, a chreu cysylltiadau sy’n estyn dros ddisgyblaethau a sectorau

•Meddwl am syniadau ar gyfer gwaith ymchwil a phrosiectau sy’n cymhwyso ymarfer yn y maes hwn

Bydd y pwll tywod yn gatalydd i gymuned, yng Nghymru’n bennaf, o ymarfer sy’n canolbwyntio ar adrodd hanesion mewn lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol a lles, gyda chydweithwyr allanol allweddol o bob cwr o’r DU yn gweithio gyda’r rhwydwaith i rannu gwybodaeth a rhannu ymarfer o’u lleoliadau eu hunain.

Bydd y gymuned yn cydweithio ar brofi arferion adrodd hanesion presennol, creu (neu addasu) dulliau arloesol methodolegol, a llunio tystiolaeth ar ‘beth sy’n gweithio’, er mwyn defnyddio gwaith ymchwil i nodi newid ehangach i’r system.

Eisiau bod yn rhan o’r gymuned? Ymunwch â’r drafodaeth a chofrestru ar gyfer y cwrs pwll tywod. Mae’n hanfodol cymryd rhan drwy’r dydd.

Archebwch eich lle ar y digwyddiad yma cyn 12yh ar y 24ain o Fehefin.

Cefnogir y digwyddiad hwn gan gyllid Rhwydwaith Arloesedd Cymru.

Cwestiynau: [email protected]

___________________

From the margins to the mainstream: Storytelling as a method for change in health, care and wellbeing services in Wales – A 1-Day Sandpit (In-Person)


10th July 2024

Hosted at Wrexham University


Stories help us to make sense of the world and understand the different ways we experience it. Recently, we’ve seen an increased interest in using storytelling in research, service improvement and policy development, particularly in health and social care. Such work can help to diversify the voices in these arenas. Despite this interest and some examples of this practice in action across Wales, the adoption of storytelling - particularly practice rooted in lived experience - is not mainstream in health, social care and well-being settings. We want to change this.


This 1-Day, in-person sandpit event will bring together researchers, policy makers and practitioners from the public and third sectors from across Wales to explore how we can embed the use of stories to support evidence-informed practice and decision-making in health, social care and well-being settings. At the sandpit, we will:

  • Hear lightning talks from a diversity of speakers about storytelling-based innovations from Wales and beyond
  • Build relationships, share knowledge and skills, and create interdisciplinary and sectoral connections
  • Generate ideas for research and applied-practice projects in this field


The sandpit will be the catalyst of a predominantly Wales-focused community of practice focused on storytelling in health, social care and well-being settings, with key external collaborators from across the UK working alongside the network to share knowledge and exchange practice from their locations. The community will collaborate on testing existing narrative practices, create new (or adapted) methodological innovations and generate evidence on ‘what works’ in order use research to inform wider system change.


Want to be a part of the community? Then join the conversation and register for the sandpit. Participation for the full day is essential.

Book your place at this event by 12pm on the 24th of June.

This event is supported by funding from the Wales Innovation Network.

Questions: [email protected]

Advertisement

Event Venue & Nearby Stays

Wrexham University, Mold Road, Wrexham, United Kingdom

Tickets

USD 0.00

Sharing is Caring: