Advertisement
Mae Meinir Gwilym yn dychwelyd i ganolfan Tŷ Tawe ym mis Ionawr! Roedd ei sioe ddiwethaf wedi gwerthu mas, felly prynwch eich tocynnau yn gyflym! Yn enedigol o blwyf Llangristiolus yng nghalon Ynys Môn oddi ar arfordir Gogledd Cymru, mae’r gantores/gyfansoddwraig Meinir Gwilym wedi sicrhau lle iddi ei hun fel un o’r artistiaid cyfrwng Cymraeg mwyaf poblogaidd erioed.
Ysgogodd rhyddhau ei CD gyntaf 'Smôcs, Coffi a Fodca Rhad'' (2002) ymateb ysgubol. Gyda’r llais unigryw a’r geiriau gonest, y gwead o sain Geltaidd/acwstig/roc-gwerin/pop, cafodd ei chofleidio yn un o’r casgliadau mwyaf gwreiddiol ac ysbrydoledig i ddod allan o Gymru ers blynyddoedd. Gwerthwyd miloedd o gopïau o’r albwm dilynol 'Dim Ond Clwydda' o fewn ychydig fisoedd i’w rhyddhau yn Nhachwedd 2003. Mae Meinir Gwilym wedi ymddangos ar lwyfannau pob un o brif wyliau Cymru. Perfformia gyda’i band amlddiwylliannol mewn lleoliadau mawrion neu ar ei phen ei hun, yn acwstig mewn digwyddiadau llai.
Cafodd albwm diweddaraf Meinir, 'Caneuon Tyn Yr Hendy', ei enwebu ar gyfer Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2024.
-
Meinir Gwilym returns to Tŷ Tawe this January! Her last show was a sell out, so make sure to grab your tickets quickly!
Meinir Gwilym is a singer-songwriter from Ynys Môn, North Wales. Her music is an unique mix of folk, Celtic, pop and rock. When asked to describe her music, Meinir's answer is "listen to it, then describe it to yourself. I just make it."
Her first release 'Smôcs, Coffi a Fodca Rhad' (Cigarettes, Coffee and Cheap Vodka) in 2002, with her unique voice and punchy lyrics, was met with a phenomenal response and hailed as one of the most original and inspired compilations to come out of Wales in years. The follow-up album 'Dim Ond Clwydda' (Nothing But Lies) sold thousands within the first few months of release in November 2003. Over the next few years, Meinir appeared at all major festivals in Wales, including Sesiwn Fawr Dolgellau, Maes B, The Royal Welsh Show and Bryn Terfel’s Faenol Festival, and performed either with her multicultural band in larger venues or on her own, acoustically at small events.
Meinir's most recent album, 'Caneuon Tyn Yr Hendy', was nominated for the Album of the Year award at 2024 National Eisteddfod.
Tŷ Tawe, SA1 4EW
24.01.25
+ cefnogaeth gan | support from Rhys Dafis
£10 ADV
Advertisement
Event Venue & Nearby Stays
Tŷ Tawe, 9 Christina Street, Swansea, United Kingdom
Tickets