Advertisement
Mae Gwen, arth wen bryderus, yn deffro ar gap iâ wedi torri, gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o’i theulu. Ar ei thaith beryglus drwy Gefnfor yr Arctig, bydd yn rhaid iddi ddod o hyd i’w dewrder, yn ogystal â’i ffordd adref.Gyda themâu newid hinsawdd, cartref a hyder wrth ei chalon, mae Gwen yr Arth Wen yn gweu cerddoriaeth, pypedau a ffurf weledol o adrodd straeon i greu sioe gyfoethog a chyffrous am ddod o hyd i’r hyder ynoch chi’ch hun. Perfformiad llawen a myfyriol yn y Gymraeg ar gyfer cynulleidfaoedd 6+ oed a’u teuluoedd.
Wedi’i ysgrifennu gan yr awdur arobryn Chris Harris, ei gyfarwyddo gan Elan Isaac, a gyda dylunio syfrdanol gan Luned Gwawr Evans, mae hwn yn berfformiad cofiadwy i’r teulu cyfan - beth bynnag eich lefel o Gymraeg - sy’n dod atoch chi y Gwanwyn yma.
Archebwch eich lle am ddim ond £1 diolch i gefnogaeth gan gronfa COAST Cyngor Abertawe!
*****
Gwen, an anxious polar bear, wakes up on a broken icecap hundreds of miles away from her family. On her perilous journey through the Arctic Ocean, she will have to find her courage, as well as her way home.
Centred on themes of climate change, home and confidence, Gwen yr Arth Wen fuses puppetry, music and visual storytelling to form a rich and exciting show about finding confidence in yourself. A fun and thought-provoking performance in Welsh for audiences aged 6+ and their families.
Written by award-winning writer Chris Harris, directed by Elan Isaac, and with stunning design by Luned Gwawr Evans, this is a memorable performance coming to you this Spring - whatever your level of Welsh!
Book your space for only £1 thanks to support from Swansea Council's COAST fund!
📅 Dydd Sadwrn | Saturday 21.02.26, 12:00 & 14:30
📍 Tŷ Tawe, SA1 4EW
Advertisement
Event Venue & Nearby Stays
Tŷ Tawe, 9 Christina Street,Swansea, United Kingdom
Tickets
Concerts, fests, parties, meetups - all the happenings, one place.











