Focus Futures: Meet & Greet | Dyfodol Ffocws: Cwrdd a Chyfarch

Mon Nov 25 2024 at 03:00 pm to 05:00 pm UTC+00:00

Bargoed Library | Llyfrgell Bargod | Bargoed

Focus Futures
Publisher/HostFocus Futures
Focus Futures: Meet & Greet | Dyfodol Ffocws: Cwrdd a Chyfarch
Advertisement
IN-PERSON: Focus Futures Caerphilly: Meet & Greet | WYNEB YN WYNEB: Dyfodol Ffocws Caerffili: Cwrdd a Chyfarch
About this Event

THIS SESSION WILL BE DELIVERED IN ENGLISH IN-PERSON.

Welsh documents are available upon request.

MI FYDD Y SESIWN HON YN CAEL EI CHYNNAL YN SAESNEG WYNEB YN WYNEB.

Mae yna ddogfennau Cymraeg ar gael os oes angen.

(Please scroll for Welsh)



What will the event cover?

Join us for our first Focus Futures Caerphilly networking event, where you’ll connect with like-minded entrepreneurs and hear from guest speakers, including representatives from Caerphilly County Borough Council (CCBC) and their Employability Support Team and Big Ideas Wales.

Highlights:

  • Meet the Business Team: Connect with experts ready to support your goals
  • Network with Fellow Entrepreneurs: Grow your business community
  • Guest Speakers and Insights: Gain valuable perspectives
  • Business Support: Learn about resources available through Focus Futures

Don't miss this opportunity to expand your network and access valuable support!


Who is this workshop for?

This workshop is the perfect opportunity for pre-start and early-stage businesses to meet like-minded entrepreneurs.


About the speakers

Jayne Brown, Big Ideas Wales Role Model

An entrepreneur from Aberfan, runs a health and fitness business and is also an experienced expedition leader. She leads global trips with groups of young people (ages 15-20), facilitating projects in conservation, environmental work, trekking, and community living. Jayne has recently returned from a five-week project in Malaysia, where her leadership and teaching skills were invaluable. As a qualified teacher, she's passionate about guiding young people toward success and helping them gain life skills and confidence through meaningful, hands-on experiences.

Councillor Jamie Pritchard, Deputy Head Regeneration CCBC

Councillor Jamie Pritchard serves as Deputy Leader and Cabinet Member for Prosperity, Regeneration, and Climate Change at Caerphilly County Borough Council (CCBC). He plays a key role in driving initiatives aimed at sustainable economic growth, enhancing community resilience, and supporting climate action within the borough. Committed to fostering local development and regeneration, working to create a prosperous future through innovative policies and targeted regeneration projects, ensuring that economic and environmental objectives align for the benefit of residents and businesses alike.

Kayleigh Price, Business Advisor

Kayleigh is a dedicated business advisor with a strong commitment to a "pay it forward" ethos, supporting enterprises across the Caerphilly borough. With extensive experience as a former multi-business owner, she successfully transformed a neglected farm into a hub for equine services, tourism, and food.

In 2023, her tourism venture won the Rural Economy award, and her café was named best in its category. Her equine businesses hold esteemed accreditations with the Association of British Riding Schools and the British Horse Society. Kayleigh brings a wealth of entrepreneurial insight and actively collaborates with local councils and Welsh business support networks to empower other business owners.


//


Beth fydd cynnwys y digwyddiad?

Ymuna â ni ar gyfer ein digwyddiad rhwydweithio Dyfodol Ffocws Caerffili cyntaf, lle bydd cyfle i ti gysylltu ag entrepreneuriaid sy'n meddwl yr un ffordd â thi a chlywed gan siaradwyr gwadd, yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CBSC) a'i Dîm Cymorth Cyflogadwyedd a Syniadau Mawr Cymru.

Uchafbwyntiau:

  • Cwrdd â'r Tîm Busnes: Tyrd i gysylltu ag arbenigwyr, sydd wrth law i gefnogi dy nodau
  • Rhwydweithio ag Entrepreneuriaid Eraill: Tyrd i ddatblygu dy gymuned fusnes
  • Siaradwyr Gwadd a Mewnwelediadau: Tyrd i ennill safbwyntiau gwerthfawr
  • Cymorth Busnes: Tyrd i glywed am yr adnoddau sydd ar gael drwy Dyfodol Ffocws

Manteisia ar y cyfle hwn i ehangu dy rwydwaith a chael mynediad at gymorth gwerth chweil!


Ar gyfer pwy mae'r gweithdy yma?

Mae'r gweithdy yma'n gyfle gwych i fusnesau newydd a'r rhai sydd ar fin dechrau i gwrdd ag entrepreneuriaid o'r un anian.


Cefndir y siaradwyr

Jayne Brown, Esiampl Dda Syniadau Mawr Cymru

Entrepreneur o Aberfan, sy'n rhedeg busnes iechyd a ffitrwydd ac sydd hefyd yn arweinydd alldeithiau profiadol. Mae'n arwain teithiau byd-eang gyda grwpiau o bobl ifanc (15-20 oed), gan hwyluso prosiectau mewn cadwraeth, gwaith amgylcheddol, hirdeithio, a byw yn y gymuned. Mae Jayne newydd ddychwelyd o Malaysia, lle bu ei sgiliau arwain ac addysgu ar brosiect pum wythnos yn amhrisiadwy. Fel athrawes gymwysedig, mae'n hynod frwd dros arwain pobl ifanc i lwyddo a'u helpu nhw i ennill sgiliau bywyd a magu hyder drwy brofiadau ymarferol ac ystyrlon.

Y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Bennaeth Adfywio CBSC

Mae'r Cynghorydd Jamie Pritchard yn gwasanaethu fel Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio, a Newid yn yr Hinsawdd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CBSC). Mae ei rôl yn allweddol o ran hyrwyddo mentrau sydd wedi'u hanelu at dwf economaidd cynaliadwy, gwella gwytnwch cymunedol, a chefnogi gweithredu dros yr hinsawdd o fewn y fwrdeistref. Mae wedi ymrwymo i feithrin datblygiad ac adfywiad lleol, ac yn gweithio i greu dyfodol llewyrchus drwy bolisïau arloesol a phrosiectau adfywio penodol, gan sicrhau bod amcanion economaidd ac amgylcheddol yn cyd-redeg er budd trigolion a busnesau.

Kayleigh Price, Cynghorydd Busnes

Mae Kayleigh yn gynghorydd busnes ymroddgar sydd ag ymrwymiad cryf i ethos "talu cymwynas ymlaen", gan gefnogi mentrau ledled bwrdeistref Caerffili. Yn hynod brofiadol ac yn berchennog ar sawl busnes yn y gorffennol, llwyddodd i drawsnewid fferm ddiffaith yn hwb ar gyfer gwasanaethau ceffylau, twristiaeth, a bwyd.

Yn 2023, enillodd y wobr Economi Wledig am ei menter dwristiaeth, ac enwyd ei chaffi fel y gorau yn ei gategori. Mae gan ei busnesau ceffylau achrediadau gwerthfawr â Chymdeithas Ysgolion Marchogaeth Prydain a Chymdeithas Ceffylau Prydain. Mae Kayleigh yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ni o safbwynt entrepreneuraidd ac mae'n cydweithio'n agos a chynghorau lleol a rhwydweithiau cymorth busnes yng Nghymru i rymuso perchnogion busnes.


//

Focus Futures, delivered in Swansea, Cardiff, Caerphilly and Powys aims to support our local communities by providing a mixture of support, guidance and opportunity around self-employment and enterprise.

Delivered via a mixture of community based and online learning to ensure access for everyone, no idea or request is too big or too small for our Team and we are here to help whatever stage of the journey you may be on.

This scheme is fully funded through the Shared Prosperity Fund via the UK Government's Levelling Up Agenda.

Nod Dyfodol Ffocws, a gyflwynir yn Abertawe, Caerdydd, Caerffili a Phowys yw cefnogi ein cymunedau lleol trwy ddarparu cymysgedd o gefnogaeth, arweiniad a chyfleoedd mewn perthynas â hunangyflogaeth a menter.

Wedi'i gyflwyno trwy gymysgedd o ddysgu yn y gymuned ac ar-lein i sicrhau mynediad i bawb, nid oes unrhyw syniad na chais yn rhy fawr neu'n rhy fach i'n Tîm ac rydym yma i helpu pa bynnag gam o'r daith yr ydych arno.

Mae'r cynllun hwn yn cael ei ariannu'n llawn drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin drwy Agenda Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Advertisement

Event Venue & Nearby Stays

Bargoed Library | Llyfrgell Bargod, Hanbury Road, Bargoed, United Kingdom

Tickets

USD 0.00

Sharing is Caring:

More Events

Soul in Motion - The Four
Sat Nov 30 2024 at 06:00 pm Soul in Motion - The Four

Murray's

Breakfast with Santa
Sun Dec 01 2024 at 09:30 am Breakfast with Santa

Murray's

Victor Andrews is Elvis Presley
Fri Dec 06 2024 at 06:00 pm Victor Andrews is Elvis Presley

Murray's

Tea with the Grinch
Wed Dec 11 2024 at 05:30 pm Tea with the Grinch

Murray's

Gnome for Christmas Parent and Child Christmas Paint Party
Wed Dec 11 2024 at 06:30 pm Gnome for Christmas Parent and Child Christmas Paint Party

The Square Royale LTD

A Night With Buble (tribute)
Fri Dec 13 2024 at 06:00 pm A Night With Buble (tribute)

Murray's