About this Event
Mae Ditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd yn gyfle i dditectifs ifanc a’u teuluoedd ddysgu am natur ymhob tymor.
Dewch i ymuno â ni wrth i ni gefnogi Gwylio Adar yr Ardd 2025 yr RSPB. Treuliwch ychydig o amser gyda Cheidwaid y Parc Cymunedol, yn dysgu popeth am yr adar yn Parc Bute a helpu i’w gweld o amgylch y safle. Mae'r daith gerdded yn fyr ac yn weddol wastad fodd bynnag gall y llwybrau fod yn fwdlyd ac anwastad.
Bydd gennym hefyd lawer o gemau a gweithgareddau i blant o bob oed fwynhau.
Beth yw Gwylio Adar yr Ardd?
Gwylio Adar yr Ardd yw arolwg bywyd gwyllt mwyaf y byd mewn gerddi. Bob blwyddyn, mae cannoedd o filoedd o bobl sy’n caru natur fel chi yn cymryd rhan, gan helpu i greu darlun o sut mae adar yr ardd yn ymdopi.
Mae pob aderyn yn cyfri!
Fe wnaeth dros 600,000 o bobl gymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2024, gan gyfri 9.7 miliwn o adar! Adar y To oedd ar y brig, ond mae nifer yr adar bywiog hyn wedi gostwng 57% o’i gymharu â’r digwyddiad Gwylio Adar cyntaf ym 1979. Mewn gwirionedd, rydym wedi colli 38 miliwn o adar o awyr y DU dros y 60 mlynedd diwethaf. Gyda chymaint o heriau’n wynebu adar, mae’n bwysicach nag erioed cymryd rhan yn y digwyddiad Gwylio Adar. Bydd pob aderyn rydych chi’n ei weld - neu ddim yn ei weld - yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ni ar sut mae adar yr ardd yn ymdopi.
Cyfarfod wrth Ganolfan Ymwelwyr Parc Bute: Canolfan Ymwelwyr Parc Bute, Bute Park, Heol y Gogledd, Caerdydd, CF10 3DX
What3words: Canolfan Ymwelwyr Parc Bute: ///matter.ozone.rounds
Maes parcio: Talu ac arddangos Gerddi Sophia:Maes Parcio, Pontcanna, Caerdydd CF11 9SZ
Talu ac arddangos Heol y Gogledd: Heol y Gogledd, Caerdydd CF10 3DU
Trên agosaf: Mae mynediad Porth y Gorllewin ar ochr ddeheuol Parc Bute oddeutu 10 munud o gerdded o Orsaf Caerdydd Canolog a 15 munud o gerdded o Orsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd.
Bws agosaf: Mae sawl safle bws ar hyd Stryd y Castell i’r de ac ar hyd Heol y Gogledd tua’r dwyrain. Ewch ar wefan Bws Caerdydd i gael gwybodaeth ar y llwybr ac amseroedd.
Beicio: Mae rheseli beiciau ar gael.
🦆 Mae'r digwyddiad hwn am ddim ond sicrhewch eich bod wedi archebu tocyn ar eich cyfer chi a'ch plentyn/plant.
🦆 Mae'r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer teuluoedd â phlant o bob oed a gallu.
🦆 Os oes gennych unrhyw anghenion ychwanegol, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar eu cyfer.
🦆 Yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn a bygis.
🦆 Mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
🦆 Gigwch esgidiau a dillad call.
Os nad ydych chi'n gallu dod i’r digwyddiad mwyach, cofiwch ganslo'ch tocyn i alluogi eraill i fynychu.
Peidiwch â dod os ydych chi neu unrhyw un o'ch parti’n teimlo'n sâl ac yn arddangos unrhyw symptomau Coronafeirws.
Ymunwch ag arolwg bywyd gwyllt mwyaf y byd mewn gerddi
Ditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd - Outdoor Cardiff
************************🐔🦆🦅🐤🦢🦃🐓🦩🦚🦉🐦🐧🦜🐣🐥 *************************
Cardiff Wildlife Detectives is an opportunity for young detectives and their families to discover nature throughout the seasons.
Come and join us as we support RSPB’s Big Garden Birdwatch 2025. Spend some time with the Community Park Rangers learning all about, and helping spot the birds around Bute Park. The walk is short and fairly flat however the paths can be muddy and uneven.
We’ll also have lots of games and activities for children of all ages to get their beaks stuck into.
What is Big Garden Birdwatch?
Big Garden Birdwatch is the world’s largest garden wildlife survey. Every year, hundreds of thousands of nature lovers like you take part, helping to build a picture of how garden birds are faring.
Every Birdwatch counts
Across the UK, over 600,000 people took part in Big Garden Birdwatch 2024, counting a whopping 9.7 million birds! House Sparrows took the top spot, but counts of these chirpy birds are down by 60% compared to the first Birdwatch in 1979. In fact, we’ve lost 38 million birds from UK skies in the last 60 years. With birds facing so many challenges, it’s more important than ever to get involved in the Birdwatch. Every bird you do – or don’t – count will give us a valuable insight into how garden birds are faring.
Meet at Bute Park Visitor Centre: Bute Park, North Road, Cardiff, CF10 3DX
What3words: Bute Park Visitor Centre: ///matter.ozone.rounds
Car park:
Sophia Gardens pay and display:Parking lot, Pontcanna, Cardiff CF11 9SZ
North Road Pay and display: North Rd, Cardiff CF10 3DU
Nearest train: The West Gate entrance at the southern end of Bute Park is roughly 10 minutes walk from Cardiff Central station and 15 minutes walk from Cardiff Queen Street.
Nearest Bus: There are several bus stops situated along Castle Street to the south, and along North Road to the east. Visit the Cardiff Bus website for route information and times.
Cycle: There are cycle racks available.
🦆 This event is free but please ensure you have booked a ticket for you and your child/ren.
🦆 This event is suitable for families with children of all ages and abilities.
🦆 If you have any additional needs, please get in touch and we will do our best to accommodate them.
🦆 Suitable for wheelchairs and buggys.
🦆 Children must be accompanied by an adult.
🦆 Please wear sensible footwear and clothing.
If you are no longer able to make the event, please remember to cancel your ticket to enable others to attend.
Please do not attend if you or any of your party are feeling unwell and are displaying any Coronavirus symptoms.
Big Garden Birdwatch
Cardiff Wildlife Detectives - Outdoor Cardiff
************************🐔🦆🦅🐤🦢🦃🐓🦩🦚🦉🐦🐧🦜🐣🐥 *************************
Event Venue & Nearby Stays
Bute Park Visitor Centre, 35 North Road, Cardiff, United Kingdom
GBP 0.00