About this Event
Ynglŷn â'r digwyddiad
P'un a ydych chi'n chwilio am Lefelau A, cyrsiau galwedigaethol, prentisiaethau neu gyrsiau addysg uwch, mae gan Coleg Gwent rywbeth at ddant pawb.
Mynychu digwyddiad agored yw'r ffordd orau o ddysgu am Coleg Gwent, ein cyrsiau, a sut beth yw astudio yn un o golegau gorau Cymru ar gyfer dewis.
Pethau pwysig i'w nodi am ein Digwyddiadau Agored:
Cofrestru
Nid oes rhaid i deulu a ffrindiau sy'n ymweld gyda chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad. Gofynnwn eich bod yn cofrestru dim ond os oes diddordeb gennych chi mewn astudio â ni.
Slotiau amser
Yn ystod cofrestru, dewiswch y slot amser cyrraedd rydych chi am gofrestru amdano. Bydd dim ond angen i chi gofrestru am un slot amser.
Campysau
Nid yw pob campws yn cynnig yr un cyrsiau, felly er mwyn osgoi siom, gwiriwch lle mae modd i chi astudio'ch dewis cwrs ac ymwelwch â'r campws perthnasol. Os ydych chi'n ansicr, mae modd i chi hidlo yn ôl campws gyda'n hopsiwn chwilio cyrsiau ar ein gwefan.
Beth i'w ddisgwyl
- Dysgu rhagor am y cwrs a llwybrau gyrfa posib.
- Cwrdd â'n tiwtoriaid arbenigol a'u holi.
- Cymryd taith o amgylch y campysau a chymryd golwg ar ein cyfleusterau o'r radd flaenaf.
- Dysgu am fywyd yn Coleg Gwent, gan gynnwys gwasanaethau cefnogi myfyrwyr, gweithgareddau allgyrsiol, undeb y myfyrwyr a mwy.
- Dysgu am gefnogaeth ariannol a chael gwybodaeth am drafnidiaeth.
- Ymgeisio am y cwrs yn y man a'r lle.
Event Venue & Nearby Stays
Torfaen Learning Zone, Saint Davids Road, Cwmbran, United Kingdom
GBP 0.00