About this Event
Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn ryngweithiol a llawn gwybodaeth, lle byddwn ni’n treiddio’n ddwfn i fyd cyfleoedd ariannu yng Nghymru!
Mae'r dirwedd ariannu yng Nghymru yn un gymysg, gyda chyfuniad o fentrau a rhaglenni cyllido.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun cyflawni o’r enw Cymru’n Arloesi: Creu Cymru Gryfach, Decach, a Gwyrddach. Mae’n cynnwys nodau economaidd, er enghraifft ‘ cynyddu nifer, effaith, amrywiaeth ac uchelgeisiau’r busnesau sy’n arloesi’n weithredol yng Nghymru’ a ‘Chynyddu swm y buddsoddiad mewn gweithgarwch ymchwil, datblygu ac arloesi ym mhob sector, gan sicrhau cyfran ranbarthol deg sy’n cyd-fynd â’r blaenoriaethau a’r cryfderau yng Nghymru'.
Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae amrywiaeth o gyfleoedd buddsoddi a chyllid ar gael i gefnogi sefydliadau.
Mae’r dasg o ymchwilio i gyllid ac ymgeisio am grantiau yn cymryd amser. Gall gwybod pa gyllid sydd orau ar gyfer eich sefydliad fod yn dalcen caled hefyd. Mae hyn oll yn cymryd amser ac adnoddau, sef pethau nad oes gan y rhan fwyaf o fusnesau at eu defnydd.
Rydyn ni’n deall hyn, ac yn awyddus i geisio cyflymu'r broses ymchwil ar eich cyfer.
Ar 22 Mai, byddwn ni’n cynnal gweithdy Gwybodaeth am Gyllid Arloesedd, a’i nod fydd helpu sefydliadau i ymgyfarwyddo â'r mentrau cyllido sydd ar gael.
Yn y sesiwn hon fydd cyfres o gyflwyniadau, gan gynnwys:
- Tîm Arloesedd Llywodraeth Cymru
- Louise Jones, Rheolwr Rhanbarthol Cymru, Innovate UK
- Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth
- Enghraifft o astudiaeth achos
Ar ben y cyflwyniadau hyn fydd sesiwn holi ac ateb, yn ogystal â sesiwn trafodaeth grŵp, lle gall sefydliadau ddod ynghyd a thrafod heriau parhaus o ran arloesi, cyllid, neu gael mynediad at bartneriaid cydweithredol.
Mae’r rhaglen lawn i’w chadarnhau, ond mae’r agenda fel a ganlyn:
9.30am: Cofrestru a rhwydweithio
10:00 am – 11:00am: Cyflwyniadau
11:00am – 11.15am: Egwyl
11.15am – 11.45am: Cyflwyniadau
11.45am – 12.10pm: Sesiwn holi ac ateb
12.10pm -12.20pm: Seibiant cysur
12.20pm – 1.20pm: Trafodaethau grŵp
1.20pm – 2pm: Cinio a rhwydweithio
2pm: Cloi'r digwyddiad
Cofrestrwch nawr, a byddwch yn barod i ddatgloi’r mentrau ariannu a fydd yn sbarduno arloesedd a thwf!
*****************************************************************************************************************
Join us for an interactive and informative session, where we will delve deep into the world of funding opportunities in Wales!
The funding landscape in Wales is mixed, with a blend of funding programmes and initiatives.
Welsh Government recently released its delivery plan for Wales Innovates: Creating a Stronger, Fairer, Greener Wales. With economic goals including ‘to increase the number, impact, diversity and ambition of businesses that are innovation active within Wales’ and ‘to Increase the amount of investment in RD&I activity across all sectors, ensuring a fair regional share aligned to the priorities and strengths in Wales’.
To help achieve this, there is a range of investment and funding opportunities to support organisations.
Researching funding and applying for grants takes time. Knowing which funding is the best for your organisation, can also be tricky. All of this takes time and resource, which most businesses don’t have
We understand this and want to help try speed up the research process for you.
On May 22nd, we are going to hold an Innovation Funding information workshop event, which will help organisations become more familiar with the funding initiatives available.
In this session, there will be a series of talks including;
- Welsh Government Innovation Team
- Dr Louise Jones, Regional Manager for Wales, Innovate UK
- Knowledge Transfer Partnerships (KTPs)
- A Case Study example
In addition to these talks, there will be a Q&A plus a group discussion session, where organisations can get together and discuss their ongoing challenges around innovation, funding or accessing collaborative partners.
A full programme will be sent to delegates with confirmed speakers pre event, but the timings are as follows:
9.30am: Registration and networking
10.00am - 11:00am: Presentations
11:00am -11.15am: Comfort break
11.15am -11:45am: Presentations
11.45am-12.10pm: Q&A
12.10pm -12.20pm: Comfort break
12:20pm - 1.20pm: Group Discussions and summary
1.20pm - 2pm: Lunch and networking
2pm: Event closes
Register now and get ready to unlock the funding initiatives that will drive your innovation and growth!
Event Venue & Nearby Stays
sbarc|spark, Maindy Road, Cardiff, United Kingdom
GBP 0.00